Mae’r Nadolig yn gyfle i ni fwynhau cwmni ein gilydd, ond yn anffodus mae nifer o bobl hŷn yn teimlo’n hynod o unig dros yr Ŵyl.
Eleni, rydyn ni eisiau creu newid. Rydyn ni’n galw ar bawb i ddod at ei gilydd a chefnogi Partneriaeth Age Cymru, sy’n cynnwys Age Cymru, Age Cymru Dyfed, Age Cymru Gwent, Age Cymru Gwynedd a Môn, Age Cymru Powys ac Age Cymru West Glamorgan, er mwyn darparu cysur, cyfeillgarwch a llawenydd i bobl sydd angen ein help.
Yn ddiweddar *, dangosodd arolwg o bobl hŷn yng Nghymru:
I nifer o bobl hŷn sy’n teimlo’n unig, yn angof, neu sydd ar eu pen eu hun, mae Partneriaeth Age Cymru’n achubiaeth.
Drwy ein gwasanaethau cyngor, rydyn ni’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bobl hŷn unig er mwyn eu helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd.
Drwy ein gwasanaethau cyfeillgarwch, rydyn ni’n cynnig cysylltiadau, clust i wrando a llais cyfeillgar i bobl hŷn, unig.
Ni allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hun. Mae angen eich cefnogaeth ar Bartneriaeth Age Cymru er mwyn creu newid go iawn i bobl hŷn, unig yn ystod cyfnod anodd.
Ni ddylai unrhyw un deimlo’n unig ac yn ynysig, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig. Gallwch chi newid hyn.
Mae pob rhodd, unrhyw rodd, yn medru helpu Partneriaeth Age Cymru i ddarparu cysylltiad a chwmnïaeth i bobl hŷn.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu i newid bywydau pobl hŷn, unig.
Rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
* Mi wnaeth Yonder gynnal arolwg ar-lein a thros y ffôn ar ran Age UK. Cymerodd 2,755 o oedolion dros 65 oed o’r DU ran yn yr arolwg rhwng 2 a 29 Hydref 2024. Cafodd yr ymatebion eu pwysoli er mwyn cynrychioli poblogaeth y DU yn gywir. O’r bobl hynny, edrychom ar grŵp o 160 o unigolion dros 65 oed o Gymru. Mae ein hystadegau yn seiliedig ar y grŵp hwn heblaw y nodwyd yn wahanol. Mae targedau ar gyfer cwotâu a phwysoliadau yn dod o ddata Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac arolwg PAMCO, a hap-debygolrwydd arolwg F2F sy’n cael ei gynnal yn flynyddol gyda 35,000 o oedolion. Mae Yonder yn un o aelodau sefydlol Cyngor Pleidleisio Prydain, ac yn cydymffurfio â'i reolau. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ewch i: http://www.britishpollingcouncil.org/
A wnewch chi roi heddiw er mwyn helpu Partneriaeth Age Cymru i ddod â chysur, cyfeillgarwch a llawenydd i fywydau pobl hŷn, unig.
Mae Lynn yn byw ar gyrion Caerdydd, a chysylltodd hi ag Age Cymru oherwydd ei bod hi’n unig ac yn awyddus i ddod o hyd i gefnogaeth a chwmni.
“Gobeithiaf y byddaf yn parhau i deimlo’n well, a hoffwn hyd yn oed wirfoddoli gyda Ffrind Mewn Angen un dydd.”
Darllenwch sut wnaeth ein gwasanaeth gwybodaeth a’n cyngor helpu Lynn i ddod o hyd i gyfeillgarwch.
Pan ddaeth y cyfnodau clo yng nghanol pandemig Covid-19, collodd mam David ei chysylltiad â’r byd tu allan. Dim ond bedwar dydd cyn y cyfnod clo, cafodd ddiagnosis o ddementia, ac wrth iddi fethu a gweld ei ffrindiau, roedd hi’n dioddef sioc emosiynol. Ond daeth hi o hyd i gyfeillgarwch drwy ein gwasanaeth Ffrind Mewn Angen.
A wnewch chi roi heddiw er mwyn helpu Partneriaeth Age Cymru i ddod â chysur, cyfeillgarwch a llawenydd i fywydau pobl hŷn, unig.
Rydym yn cynnig cymorth a chyngor drwy Gyngor Age Cymru. Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98 (codir tâl ar gyfradd leol) (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). E-bostiwch ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost advice@agecymru.org.uk