Ffoniwch 9am – 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Galwad ffôn am ddim. Byddwn ni’n eich paru chi gydag un o’n gwirfoddolwyr. Mae ein gwasanaeth yn hyblyg er mwyn gweddu i anghenion pob un sy’n cymryd rhan.
Mae Age Cymru’n awyddus i newid y ffordd rydyn ni’n heneiddio.
Dyma sut mae Age Cymru’n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru gyda’ch cefnogaeth chi.
Nod Age Cymru yw amddiffyn oedolion sydd yn cysylltu gydag Age Cymru, drwy unrhyw un o’n gweithgareddau, rhag camdriniaeth ac esgeulustra.
Mae Age Cymru yn adnabod bod ganddo ddyletswydd gofal cyfreithiol a moesegol at berson hŷn a allai fod yn dioddef, neu a allai fod mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustra, neu ymddygiad gorfodol.
Os ydych chi’n poeni gallai camdriniaeth neu esgeulustra fod yn digwydd i chi, neu i rywun rydych chi’n ei nabod, gall ein tîm Cyngor Age Cymru eich helpu i ddeall eich opsiynau. Cysylltwch â ni ar 0300 303 4498 (codir pris galwad leol) rhwng dydd Llun a dydd Gwener rhwng 9am a 4pm. Neu, gallwch anfon e-bost atom yn uniongyrchol ar: safeguarding@agecymru.org.uk .
Gallwch chi hefyd ddarllen Taflen Wybodaeth Age Cymru 78w: Diogelu pobl h��n yng Nghymru rhag camdriniaeth ac esgeulustra (PDF, 1 MB)