Skip to content
Cyfrannwch

Gwybodaeth a chyngor

Cyngor Age Cymru yw’r prif wasanaeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn. Rydyn ni’n darparu cefnogaeth drwy ein llinell gyngor aml-sianel, ac mae gennym ni ystorfa o adnoddau ysgrifenedig.

Os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ffoniwch 0300 303 44 98 (codir pris galwad leol) (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, dydd Llun – dydd Gwener). E-bostiwch cyngor@agecymru.org.uk

Bob blwyddyn, mae gwerth tua £2.2 biliwn o Gredyd Pensiwn a budd-daliadau eraill yn mynd heb eu hawlio gan bobl hŷn yn y DU.

A oes gennych chi hawl i unrhyw arian? Mae ein canllaw, Mwy o Arian yn eich Poced, yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol am fudd-daliadau a hawliau.

Rydyn ni yma i helpu

Rydyn ni’n darparu cymorth am ddim drwy ein llinell gyngor.  Ffoniwch 0300 303 44 98.  Mae’r llinell ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, neu gallwch chi e-bostio cyngor@agecymru.org.uk

Mae ein gwaith ni’n newid bywydau, ac rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod barn pobl hŷn yn cael ei barchu.

Mae Cyngor Age Cymru’n darparu gwybodaeth a chyngor arbenigol am ddim i filoedd o bobl hŷn, yn ogystal â’u teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Rydyn ni’n ymgyrchu dros hawliau pobl hŷn ac yn herio’r anghydraddoldebau maen nhw’n eu hwynebu.  Drwy ein gwasanaethau cyfeillgarwch, rydyn ni’n sicrhau bod gan bobl ddigonedd o gefnogaeth wrth iddyn nhw heneiddio.

Rydyn ni angen eich help chi.

Rhowch heddiw

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top