Skip to content
Cyfrannwch

Hunanofal yn ystod cyfnodau poeth

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn edrych ymlaen at y tywydd cynhesach a theimlo rhywfaint o haul ar ein hwynebau. Ond mae'n bwysig bod yn barod am dywydd poeth gan y gall tymereddau uchel fod yn beryglus i'ch iechyd.


Sut fedra i ofalu am fy hun pan dwi’n mynd allan yn ystod cyfnodau poeth?

• Peidiwch treulio gormod o amser tu allan, a pheidiwch gwneud ymarfer corff yn ystod adegau poethaf y dydd (rhwng 11am a 3pm), ac anelwch am y cysgod
• Gwisgwch het haul a chadwch botel o ddŵr gyda chi
• Gwisgwch ddillad golau o gotwm ysgafn er mwyn osgoi mynd yn rhy dwym
• Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd
• Gwisgwch ddigonedd o eli haul. Defnyddiwch SPF 30 o leiaf a ychwanegwch ato’n rheolaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gorchuddio pob rhan o’ch croen gyda’r eli – weithiau rydyn ni’n anghofio pennau moel, er enghraifft/
• Mae lefelau UV yn medru gwneud niwed hyd yn oed yn ystod cyfnodau cymylog, felly byddwch yn ofalus pan nad yw hi’n heulog.
• Mynnwch sgwrs gyda’ch optegydd am sbectol haul â phresgripsiwn. Gwnewch yn siŵr bod gan eich sbectol haul marc CE a label UV40.


Sut fedra i ofalu am fy hun yn fy nghartref yn ystod cyfnodau poeth?

• Caewch y cysgodlenni a’r ffenestri pan mae hi’n oerach tu fewn na thu allan.
• Dylid cadw meddyginiaeth mewn tymheredd sy’n is na 25°C – felly rhowch eich meddyginiaeth yn yr oergell pan mae hi’n boeth iawn.
• Archwiliwch eich croen yn fanwl yn rheolaidd. Os ydych chi’n sylwi bod mannau geni neu frychau haul wedi newid lliw neu siâp neu wedi bod yn gwaedu, mynnwch sgwrs gyda’ch meddyg teulu.
• Yfwch ddigonedd o ddŵr, ond ceisiwch osgoi diodydd meddwol oherwydd ni fyddwn nhw’n eich hydradu chi.
• Ceisiwch yfed yn rheolaidd a bwytwch hyd yn oed os nad oes chwant bwyd arnoch chi. Ceisiwch osgoi diodydd meddwol.
• Gall clwtyn gwlyb neu ychydig o ddŵr ar gefn eich gwddf leihau eich tymheredd yn gyfymach na gwyntyll.
• Agorwch y ffenestri ar ddwy ochr eich tŷ yn ystod cyfnodau oerach (yn gynnar yn y bore neu gyda’r hwyr) er mwyn awyru’r tŷ cyfan.
• Caewch y cysgodlenni neu’r llenni yn ystod y dydd, yn enwedig ar ffenestri sy’n wynebu’r haul, er mwyn cadw’r gwres tu allan.
• Ceisiwch leihau eich defnydd o’r ffwrn a’r stôf yn ystod cyfnodau poetha’r dydd er mwyn lleihau faint o wres sydd yn y tŷ.
• Os yw’r tywydd yn boeth iawn ac rydych chi’n ofni na fyddwch chi’n medru ymdopi, gofynnwch i rywun i gadw llygad arnoch chi. Gallwch chithau hefyd gadw llygad ar bobl eraill sy’n debygol o ddioddef yn y gwres.


Beth ddylwn i wneud os nad ydw i wedi yfed digon o ddŵr?

Mae tywydd poeth a sych yn medru gwneud i chi gorgynhesu, ac weithiau byddwch chi’n colli mwy o hylif na beth rydych chi’n ei yfed.

Beth sy’n digwydd i’r corff pan nad yw’n cael digon o ddŵr ac yn gorgynhesu?
• poen yng nghyhyrau eich breichiau, coesau a’ch stumog
• teimlo braidd yn gymysglyd
• blinder
• methu cysgu.

Weithiau dydych chi ddim yn teimlo’n sychedig pan nad ydych chi wedi yfed digon o ddŵr.


Beth ddylwn i wneud os nad ydw i wedi yfed digon o ddŵr, neu os ydw i’n gorgynhesu?

Ewch i eistedd neu orwedd mewn man oer, tywyll ac yfwch ddigonedd o ddŵr. Os fydd eich symptomau chi’n gwaethygu, ffoniwch GIG 111 i ofyn am gyngor.


Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n yfed digon o hylif. Mae dŵr, diod ffrwythau gwan neu sudd oll yn opsiynau da. Mae’n syniad da i fwyta diet cytbwys er mwyn helpu’ch corff i gael cyflenwad newydd o halen pan fyddwch chi’n chwysu.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn edrych ymlaen at y tywydd cynhesach a theimlo rhywfaint o haul ar ein hwynebau. Ond mae'n bwysig bod yn barod am dywydd poeth gan y gall tymereddau uchel fod yn beryglus i'ch iechyd.

 

Last updated: Meh 22 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top