Podlediad
Gwrandewch ar Age Matters, ein podlediad sy’n rhoi pwyslais ar heneiddio yng Nghymru
Mae pobl hŷn yn werthfawr, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando arnyn nhw, yn eu parchu, ac yn sicrhau eu bod nhw’n cael eu cynrychioli yn ein cymdeithas.
Mae’r podlediad hwn yn ffordd o wneud yn siŵr bod hwn yn digwydd, wrth roi platfform i leisiau a straeon sy’n aml yn cael eu hanwybyddu. Ym mhob rhaglen, byddwn ni’n edrych ar faterion sy’n bwysig i bobl hŷn yng Nghymru, yn cynnwys gofal, cymunedau, hawliau, gwydnwch, a llawer, llawer mwy.
Byddwn ni’n edrych tu hwnt i’n ffiniau er mwyn cynnal sgyrsiau ehangach am heneiddio, cynhwysiant a newid. Os ydych chi’n heneiddio, yn cefnogi rhywun sy’n heneiddio, neu rydych chi eisiau dysgu rhagor am heneiddio, dewch i wrando ar Age Matters.
Dewch i drafod heneiddio.
Pennod 1: Mae Kelly Barr yn sgwrsio gyda Jean, Gavin a Michelle am sut maen nhw wedi dod â chymunedau i mewn i gartrefi gofal.
Pennod 2: Mae Dr Sam Young yn sgwrsio gyda Dr Alicia Stark o Tanio am sut gall fyd natur helpu pobl i heneiddio’n iach, a sut gall fannau gwyrdd helpu pobl i ddysgu am newid hinsawdd.
Pennod 3: Mae Kelly Barr yn sgwrsio gyda Jason Bennett, MBE, am sut mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn galluogi pobl hŷn yng Nghymru i symud i fyw mewn cartrefi gofal yn gyffyrddus, drwy sgyrsiau cadarnhaol sy’n grymuso.
Pennod 4: Mae Dr Sam Young yn sgwrsio gyda'r Athro Mark Taubert, Meddygaeth Liniarol Ymgynghorol a Chadeirydd Grŵp Strategaeth Cynllunio Gofal y Dyfodol, GIG Cymru, am bwysigrwydd Cynllunio Gofal y Dyfodol, a pham nad yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am sut hoffech chi dderbyn gofal yn hwyrach yn eich bywyd.
Pennod 5: Mae Marharyta Hainiieva, Intern Polisi’r Senedd gydag Age Cymru, yn sgwrsio gydag arbenigwyr sy’n cynrychioli’r sectorau iechyd, tai a bywyd bob dydd mewn cymunedau er mwyn darganfod beth yw’r heriau allweddol sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru – a beth sydd angen i ni newid.
Byddant yn trafod pwysau ar y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaeth gofal cymdeithasol, problemau sy’n ymwneud â thai, a phwysigrwydd cynnal cysylltiadau gyda chymunedau. Bydd y rhaglen yn cyfuno barn arbenigwyr am ba newidiadau sydd eu hangen – a pham mae’n rhaid i leisiau pobl hŷn fod yn ganolog i bolisïau’r dyfodol.