Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Oedran
Archebwch eich lle ar sesiwn hyfforddi gwasanaeth cwsmeriaid Age Cymru – Mae dyddiadau newydd ar gyfer mis Mawrth 2025 ar gael.
Os ydych chi’n teimlo bod gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog yn hanfodol i’ch busnes, pa mor dda ydych chi’n deall anghenion pobl hŷn?
Mae deall gwerth cwsmeriaid hŷn yn hanfodol ar gyfer busnesau modern. Mae gan gwsmeriaid hŷn bŵer prynu, ffyddlondeb i frandiau, a dylanwad dros benderfyniadau am wariant yn eu cartrefi. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o rannu eu profiadau, cadarnhaol a negyddol, gyda ffrindiau, teulu a chymunedau ar-lein.
Archebwch eich hyfforddiant heddiw a dysgwch sut fedrwch chi sicrhau bod eich busnes yn cefnogi pobl hŷn! Bydd ein hyfforddiant yn sicrhau bod gennych chi’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn gwella eich gwasanaeth a chefnogi pobl hŷn, gan wneud eich busnes yn fwy cynhwysol a chroesawgar.
Gyda'r hyfforddiant hwn, bydd staff gwasanaethau cwsmeriaid yn:
- Chwalu stereoteipiau oedran
- Deall yr heriau sy'n wynebu pobl hŷn
- Deall sut i ddarparu gwell gwasanaeth cwsmeriaid i bobl hŷn
- Defnyddio syniadau ymarferol i wreiddio'r gwasanaeth gwell hwn i gwsmeriaid gan sicrhau bod pobl hŷn yn cael y profiad gorau wrth dderbyn cefnogaeth gan y sefydliad.
Archebwch eich lle ar hyfforddiant gwasanaeth cwsmer Age Cymru
Ble: Ar lein (Teams)
Hyd y sesiwn: Dwy awr
Pris: £49 yr un
Archebwch eich lle ar gyfer sesiynau mis Mawrth – y cyntaf i’r felin gaiff falu! Archebwch eich lle.
Dydd Mawrth 11 Mawrth 2025 - 14:00-16:00
Dydd Mercher 26 Mawrth 2025 - 10:00-12:00
E-bostiwch policy@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555
Rydyn ni hefyd yn darparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer grwpiau. Gallwn addasu’r hyfforddiant gan ddibynnu ar anghenion eich sefydliad, yn cynnwys sesiwn ymwybyddiaeth oedran gyffredinol.
Cysylltwch â ni i drafod