Skip to content
Cyfrannwch

Aelodau'r bwrdd

Mae gan Age Cymru Fwrdd Ymddiriedolwyr er mwyn monitro amcanion strategol Age Cymru. Mae’r uwch-reolwyr yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolwyr er mwyn cynnal gwaith Age Cymru o ddydd i ddydd.

Cadeirydd - Yr Athro John Williams

Mae John yn Athro Emeritws yn y Gyfraith. Gwnaeth fwynhau gyrfa hir a nodedig ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1975 a 2018, gan ymchwilio'n bennaf i hawliau dynol pobl hŷn.

Yn ystod ei yrfa canolbwyntiodd yr Athro Williams ar effaith y gyfraith o ran pobl hŷn sy'n mynychu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Cynhaliodd ymchwil helaeth ar garcharorion hŷn, dyluniad cartrefi gofal, cyfraith ryngwladol a heneiddio, a cham-drin domestig a phobl hŷn.

Yn ogystal â hyn, rhoddodd yr athro gyngor i nifer o gyrff cenedlaethol gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddrafftio'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a rhoddodd gyngor i Bwyllgor Cynghori Diogelu Llywodraeth Cymru ar ganllawiau a rheoliadau diogelu.

Gofynnwyd am ei arbenigedd y tu allan i Gymru hefyd a daeth yn aelod o Gyfarfod Grŵp Arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol Pobl Hŷn, rhoddodd dystiolaeth i gydbwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin ar ddrafft y Bil Analluogrwydd Meddwl, a rhwng 2017 a 2020 roedd yn aelod o adolygiad statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon o Gartref Gofal Dunmurry a sut y bu’n trin pobl hŷn.

Dirprwy Gadeirydd - Diane Hughes

Yn 2018, ymddeolodd Diane o'i swydd fel Rheolwr Caffael Corfforaethol a Chontractau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle bu'n gyfrifol am ddarparu contractio ar gyfer pob cyfarwyddiaeth o fewn yr awdurdod. Roedd y rôl yn cynnwys darparu'r arweinydd rhanbarthol ar gyfer gweithgarwch caffael mewn addysg a gofal cymdeithasol, darparu fframwaith cynhwysfawr i'r awdurdod ar drafodaethau ffioedd allweddol gyda darparwyr gwasanaethau.

Cydymffurfio â'r fframweithiau deddfwriaethol perthnasol, gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cynghori cydweithwyr ar faterion comisiynu a chontractio arbenigol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, rheoleiddio a diogelu'r cyhoedd. Datblygu dealltwriaeth dda o'r sector gofal, gan gynnwys dadansoddiad o'r farchnad a risg i ddarparwyr gwasanaethau mewnol ac allanol.

Bydd bod yn rhan o feysydd cyfrifoldeb allweddol yn ei rôl cyn ymddeol yn galluogi Diane i gefnogi gwaith yr elusen ac mae'n awyddus i helpu i ddatblygu, ehangu a hyrwyddo presenoldeb a dylanwad yr Elusen yng Ngogledd Cymru. Mae gan Diane ystod o brofiad gwirfoddol.

Trysorydd - Jack Mansfield

Cyfrifydd Siartredig (FCA) yw Jack sydd â phrofiad helaeth a hanes llwyddiannus yn y sectorau preifat, cyhoeddus a dielw. Roedd yn brif gyfarwyddwr bwrdd gyda Thŷ'r Cwmnïau rhwng 1992 a 2017 lle bu'n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol cyllid y sefydliad, TG, caffael, rheoli eiddo. Cynyddodd gynhyrchiant ac allbwn sefydliadol trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau digidol a systemau adrodd, datblygiad proffesiynol ac amlsgilio timau a gweithiodd er mwyn herio materion sy'n ymwneud ag amrywiaeth mewn gweithle amlddiwylliannol.

Mae gan Jack brofiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol gyda chwmni ailgylchu gwastraff sy'n eiddo i'r awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru. Yn ddiweddar fe'i penodwyd i Fwrdd Hafan Cymru (elusen sydd yn helpu pobl sy'n dianc rhag camdriniaeth ddomestig ac sy’n ceisio adennill eu hannibyniaeth). Yn flaenorol, mae Jack wedi gwirfoddoli fel Trysorydd Anrhydeddus gyda Chymdeithas MS leol ac mae’n gwirfoddoli gydag Oasis Caerdydd (darparwr Cymorth i Ffoaduriaid) ac mae'n dysgu mathemateg (clwb gwaith cartref) gydag All Communities Equal (ACE) Caerdydd.

Clare Davies

Mae Clare yn Codi Arian yn y Gymuned dros Gymru gyda Diabetes UK, ble mae hi’n sefydlu cysylltiadau gydag unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau er mwyn gwella cefnogaeth a chynhyrchu incwm.  Roedd hi gynt yn gweithio fel Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol dros Dde Cymru gyda Tenovus Cancer Care, yn arwain ymgyrchoedd codi arian cymunedol a chorfforaethol, cefnogi grwpiau gwirfoddol a darparu amrywiaeth o ymgyrchoedd a digwyddiadau llwyddiannus.

Yn gynharach yn ei gyrfa, bu Clare yn gweithio i Sefydliad Cymunedol Cymru, fel Swyddog Grantiau ac yna fel Swyddog Gratiau ac Effaith.  Cafodd hi brofiad sylweddol o wobrwyo grantiau, anghenion y gymuned, adrodd ar effaith a chefnogi elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru.

Mae Clare yn teimlo’n gryf iawn am sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi gan y gymuned ehangach, a’u bod yn rhan o’r gymuned ac yn medru cymryd rhan yng ngweithgareddau’r gymuned.  Mae hi wedi gwirfoddoli gyda With Music in Mind, mae ganddi hi sgiliau sy’n gysylltiedig â chodi arian, gwobrwyo grantiau, sefydlu cysylltiadau ac ymgysylltu cymunedol, ac mae hi’n barod i rannu eu sgiliau gyda Bwrdd Age Cymru.

Angharad Jones

Mae Angharad yn gyfreithiwr eiddo tiriog masnachol yng Nghaerdydd. Mae Angharad yn gweithredu mewn trafodion sy’n ymwneud ag eiddo tiriog, ond mae'n arbenigo mewn eiddo tiriog mewn perthynas â thrafodion corfforaethol.  Mae Angharad hefyd yn cyd-arwain ymarfer gofal iechyd ei chwmni, ac mae hi hefyd yn hyrwyddwr Lles.

Cafodd ei magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac ar ôl astudio a hyfforddi yn Llundain, mae Angharad yn parhau i fod yn siaradwr Cymraeg balch. Cyn hyfforddi fel cyfreithiwr, bu Angharad yn gweithio i Prostate Cymru fel cynorthwyydd i'r Ymddiriedolwyr, ac ers hynny mae hi’n frwdfrydig tu hwnt am waith elusennol.

Clive Nadin

Ymddeolodd Clive yn 2023 ar ôl 22 mlynedd yn y sector gofal cymdeithasol.  Roedd yn berchen ar gartref nyrsio yng Ngogledd Cymru, a fe oedd hefyd yn rheoli’r cartref. 

Yn ogystal â sgiliau arweinyddiaeth a rheoli cartrefi gofal, mae gan Clive sgiliau cyfrifeg a chyflogres ac mae wedi rheoli cyllidebau i fusnesau bach ers dros 25 mlynedd.

Roedd yn aelod gweithgar o Fforwm Gofal Cymru; cafodd ei benodi i'r bwrdd am 13 mlynedd yn cynrychioli Conwy, a bu’n Gadeirydd rhanbarthol yng Ngogledd Cymru am 6 blynedd. Roedd yn awyddus i sicrhau bod darparwyr gofal annibynnol yn gallu cynnig y gwasanaethau gorau i'w defnyddwyr, gan sicrhau bod y methodolegau sy’n pennu ffioedd yn gweithredu’n deg trwy weithio gyda chyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cynrychiolodd Clive y sector annibynnol ar y bwrdd diogelu lleol am saith mlynedd.

Y tu allan i'r gwaith, roedd Clive yn rhedwr brwd, gan gwblhau nifer o farathonau a gor-farathonau.  Mae Clive yn wirfoddolwr gweithgar ac yn cymryd rhan yn Parkrun, ac ar hyn o bryd mae'n mwynhau cerdded a'r awyr agored.

Eleanor Sanders

Mae gan Eleanor mwy na deng mlynedd ar hugain o brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus o fewn y GIG a Llywodraeth Cymru. Gweithiodd fel nyrs gofrestredig mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol, a gweithiodd gyda nifer o fentrau er mwyn gwella gwasanaethau ledled Cymru. Cyfunodd y wybodaeth glinigol a'r sgiliau arweinyddiaeth hynny yn adran iechyd Llywodraeth Cymru. Mae gweithio gyda’r llywodraeth wedi cyfrannu at ei hawydd i ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae ganddi brofiad helaeth o fewn y trydydd sector, yn enwedig ar lefel bwrdd elusennol gan gynnwys pum mlynedd fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr Banc Bwyd Caerdydd. Drwy’r gwaith hwn mae hi wedi dod yn gyfarwydd â sefydliadau o'r fath, gan gydbwyso'r galw cynyddol gyda’r gallu i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol er gwaethaf pwysau ariannol.

Fel Cynghorydd Lleol Annibynnol etholedig sy'n cynrychioli ei chymuned leol yng Nghaerdydd, gwelodd Eleanor lawer o'r problemau sy'n wynebu pobl hŷn, gan gynrychioli nifer ohonynt i fynd i'r afael â llawer o'r anghenion a nodwyd a'u goresgyn. Mae hi'n parhau i fod yn rhan o'i chymuned leol gan gynnwys cadeirio'r pwyllgor trefnu sy'n cynnal gwyliau haf a gaeaf llwyddiannus iawn.

Ar hyn o bryd mae Eleanor yn eiriolwr gwirfoddol annibynnol gyda phrosiect HOPE Age Cymru. Mae hi'n defnyddio ei phrofiad o gefnogi sawl aelod hŷn o'r teulu i fynychu’r gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt wrth i'w hanghenion gynyddu, yn ogystal â'i gwybodaeth am ddarpariaeth leol, yn enwedig yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

David Teague

Drwy gydol ei yrfa, mae David wedi gweithio yn y maes TG, llywodraethu data a pholisi yn y sector cyhoeddus, ac ers 2016 mae wedi arwain tîm Cymru ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ym mhob sector ledled Cymru, gan eu helpu i sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn deg ac yn ddiogel.

Mae ei yrfa wedi rhoi cipolwg iddo ar yr heriau o ddarparu gwasanaethau effeithiol a theg i'r rhai sydd angen y gwasanaethau hynny. Mae David yn teimlo’n gryf iawn am y gwaith hwn, yn enwedig oherwydd bod gan y byd modern y potensial i effeithio ar ansawdd bywyd cymaint o bobl pan mae pobl yn cael eu rhoi wrth wraidd y gwasanaethau hynny. 

 

Last updated: Tach 16 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top