Cofrestru
Cofrestru i ymuno â’r Cam Mawr neu ffoniwch 029 2043 1531

Gyda’ch cefnogaeth chi, fedrwn ni ddarparu gwasanaethau hanfodol fel ein gwasanaeth ffrind dros y ffôn a Chyngor Age Cymru, sy’n cefnogi pobl ledled Cymru.
________________________________________
Er bod yna help ar gael, mae nifer ar eu colled. Ledled Cymru, mae gwerth miliynau o bunnoedd o fudd-daliadau fel Credyd Pensiwn yn mynd heb eu hawlio bob blwyddyn - a gallai’r gefnogaeth hynny helpu i leihau pwysau ariannol ac arwain at fathau eraill o gefnogaeth. Ond mae stigma, cymhlethdod a mynediad yn rhwystro nifer rhag dod o hyd i help.
Mae ymgyrchoedd codi arian yn ein helpu ni i fynd i’r afael a’r problemau hyn - cynnig cyngor, sefydlu cysylltiadau, a llais cyfeillgar i ddarparu help.
Gyda phob cam a phob punt rydych chi'n eu codi ar ein cyfer, gallwch ein helpu i gyrraedd mwy o bobl sydd angen ein cymorth yn daer.
Cofrestru i ymuno â’r Cam Mawr neu ffoniwch 029 2043 1531
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn crys-t ar ddechrau’r her a medal ar y diwedd! Bydd pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi pobl hŷn ledled Cymru.