Skip to content
Cyfrannwch

Elusennau’n lansio cwrs llesiant 12-wythnos ar gyfer pobl dros 50 oed yng nghefn gwlad Pen-y-bont ar Ogwr

Published on 12 Mai 2023 12:28 yh

Bydd ymarferwyr Celf Goedwig yn annog creadigedd ymhlith yr unigolion fydd yn cymryd rhan yn y cwrs

Mae Age Cymru, mewn partneriaeth â’r sefydliad celfyddydau cymunedol Tanio, wedi trefnu cyfres o sesiynau llesiant ar gyfer pobl dros 50 oed.  Bydd y sesiynau’n defnyddio sgiliau creadigol o fewn amgylchedd naturiol.

Bydd Tanio’n defnyddio ymarferwyr Celf Goedwig sydd wedi cael eu hyfforddi’n arbennig i hybu pobl i ddatblygu eu sgiliau creadigol eu hun.

Mae’r cwrs, sy’n 12 wythnos o hyd, yn cychwyn ar ddydd Mawrth 9 Mai 2023.  Lleolir y cwrs yn y lloches o fewn y Gerddi Dwyreiniol ym Mharc Gwledig Bryngarw, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r sesiynau am ddim, a bydd lluniaeth ar gael i bawb yn ogystal â pharcio am ddim.  Bydd cefnogaeth ar gael i bawb sy’n profi anawsterau trafnidiaeth neu fynediad.

Meddai Prif Weithredwr Tanio, Lisa Davies, “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n gweithio mewn partneriaeth ag Age Cymru er mwyn darparu celf goedwig i bobl hŷn ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Rydyn ni wedi gweld sut gall pobl elwa drwy fod yn greadigol yng nghanol byd natur drwy ein rhaglen Ysgol Celf Goedwig.  Rydyn ni’n edrych mlaen i uno pobl yn ein mannau awyr agored arbennig.”

Meddai Rheolwr Rhaglen Celfyddydau a Chreadigedd Age Cymru, Kelly Barr, “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi helpu nifer ohonom i werthfawrogi byd natur o’m cwmpas, wrth i ni fynd am dro bob dydd a chwrdd â ffrindiau tu allan.  Cydnabyddir yn eang bod bod ynghanol byd natur yn medru cael effaith gadarnhaol ar ein llesiant corfforol a meddyliol. 

Rydyn ni’n gobeithio bydd y sesiynau hyn yn arddangos y buddion sydd ar gael drwy gyfuno creadigrwydd a’r byd tu allan!”

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, a ariennir gan Grant Cymunedau Gwydn Cyfoeth Naturiol Cymru, ffoniwch 01656 729 246 neu e-bostiwch helo@taniocymru.com

Diwedd

 

Last updated: Mai 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top