Gwanwyn
Digwyddiadur
11 Mai
Caerdydd
Get Moving, 9.30 - 10.30 @ Canolfan Hamdden y Gorllewin
Celf a Chrefft, 11 – 1 @ Hyb Trelai
Celf Diemwnt, 12.30 - 2 @ Hyb yr Eglwys Newydd
Sir Penfro
Weather Systems @OrielQ (Dydd Llun, dydd Mercher – dydd Sadwrn)
12 Mai
Caerphilly
Grŵp darllen, 11 – 12 @ Llyfrgell Oakdale
Gwynedd
Snap & Chat, Age & Dementia Holywell, 10.30 - 2.30 @ Dyffryn Maes Glas
Powys
Ein Blwyddyn Wedi'i Baentio gan Grŵp Peintio a Braslunio Trefyclo @ Wyeside Arts Centre (Dydd Mawrth – dydd Sul)
RCT
AttenDANCE 50+, 10 – 12 @ Caerlan Hall, Llantrisant
Abertawe
‘Purls of Wisdom’ Grŵp gwau, 2 – 4 @ Glynn Vivian
13 Mai
Gwynedd
Deuwch a gwnewch, 10.30 - 12.30 @ Menter Fachwen
RCT
Drws agored, bywydau cysylltiedig @ Amgueddfa Pontypridd (Dydd Mercher – dydd Sadwrn)
14 Mai
Sir Gaerfyrddin
Crafty Crusaders, 10 – 11.45 @ Parc Dewi Sant, Caerfyrddin
Grŵp Crefft Eco, 11 – 12 @ Llyfrgell Caerfynrddin
RCT
Cerdded a siarad ffotograffiaeth, 11 – 1 @ Neuadd y Dre
Ar-lein
Move into Wellness, 19.30 - 20.20
15 Mai
Caerdydd
Get moving, 10.30 - 11.30 @ Canolfan Hamdden Llanisien
Celf a Chrefft, 1 – 3 @ Powerhouse Llanedern
Gweithdai dawns creadigol gan Striking Attitudes, 10.20 - 12.30 @ Rubicon
Casnewydd
Cornel greffus, 11 – 12 @ Y Llyfrgell Ganolog
RCT
Crefftio yn yr ystafell de, 1.30 - 3.30 @ Neuadd y Dre
16 Mai
NPT
Cwrdd â'r artist - Pip Woolf, 2 - 2.30 @ Queen Street Gallery
RCT
Paned a Pharod i Siarad, 10.30 - 12.30 @ Neuadd y Dre
17 Mai
Caerdydd
Pentyrch Art Group Annual exhibition, 10 – 6 @ Neuadd y pentref Pentyrch

Gwanwyn 2026: Yr Hinsawdd
Sicrhau bod mentrusrwydd pobl hŷn yn rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd
Mae Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol sy'n digwydd drwy gydol mis Mai bob blwyddyn, a'i nod yw arddangos creadigedd pobl hŷn. Ers 2007, mae Gwanwyn wedi gweithio gydag artistiaid a sefydliadau o bob math er mwyn hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau creadigol yn cynnwys comedi, gwnïo, Bollywood a chlybiau llyfrau.
Mae Gŵyl Gwanwyn yn gyfle i bobl hŷn fod yn greadigol fel ymarferwyr, trefnwyr, neu aelodau o gynulleidfa. Mae Gŵyl Gwanwyn yn helpu pobl hŷn i ddeall sut allant elwa drwy fod yn greadigol yn gorfforol ac yn feddyliol.
Thema Gwanwyn 2026 yw Yr Hinsawdd.
Mae pobl hŷn ymhlith yr ymgyrchwyr mwyaf angerddol dros yr hinsawdd a gallant fod yn gyfranogwyr brwdfrydig a phrofiadol wrth gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol sy'n anelu at adeiladu gwytnwch yr hinsawdd. Eleni, hoffwn dynnu sylw at brosiectau sy'n defnyddio dulliau creadigol er mwyn tynnu sylw at gyfiawnder yr hinsawdd ac eco-bryder.
Rhan o nod Gwanwyn yw herio stereoteipiau am heneiddio a phobl hŷn, a byddwn ni’n arddangos gweithgareddau, digwyddiadau, artistiaid a grwpiau sy’n cynrychioli amrywiaeth a phrofiadau pobl hŷn ledled Cymru.
Bydd yna gyfleoedd drwy gydol mis Mai i fod yn rhan o weithgareddau’r Ŵyl, yn cynnwys rhoi tro ar rywbeth newydd er mwyn arddangos eich sgiliau creadigol.
I gael y newyddion diweddaraf am Ŵyl Gwanwyn, ac i ddarganfod sut allwch chi fod yn rhan o’r Ŵyl, ymunwch â’r rhestr bostio drwy e-bostio gwanwyn@agecymru.org.uk
Neu ffoniwch 029 2043 1555
Os hoffech chi lanlwytho digwyddiad i galendr yr Ŵyl, llenwch ein ffurflen ar-lein.
Storïwyr
Eleni, hoffwn rannu'r effaith y mae bod yn greadigol wedi'i chael ar fywydau pobl hŷn ledled Cymru. Os ydych chi dros 50 oed ac eisiau rhannu eich stori, neu os ydych chi'n cynnal gweithgaredd creadigol i bobl hŷn ac mae gennych chi stori i’w hadrodd am eich cymuned, anfonwch e-bost at gwanwyn@agecymru.org.uk neu ffoniwch 07944 996720.
Diolch yn fawr iawn Mererid Hopwood.
Yr Iwrch
Dos di’r llatai distawaf – yn gennad
Dros y gân nas medraf,
Ac i glyw fy naear glaf
Rho alaw dy gri olaf.
Mererid Hopwood