Galwad ffôn am ddim. Byddwn ni’n eich paru chi gydag un o’n gwirfoddolwyr. Mae ein gwasanaeth yn hyblyg er mwyn gweddu i anghenion pob un sy’n cymryd rhan.
Mae Age Cymru’n cefnogi’r celfyddydau a chreadigedd mewn cartrefi gofal. Rydyn ni’n medru cefnogi cartrefi gofal, eu staff a’u preswylwyr mewn nifer o ffyrdd.
Fel rhan o brosiect newid hinsawdd Gwanwyn, gwnaeth dawnswyr o grŵp Teifi Dance ddewis atgof am y tywydd o'u plentyndod a'i droi'n gyfres o symudiadau. Y canlyniad oedd Tymhorau a fu, ffilm fer ar ffurf dawns greadigol am gyfnod pan oedd gan y tymhorau rhythm cyson, a sut mae'r rhythm yn newid.