Prosiect Newid Hinsawdd
Atseiniau ac Angorau: dawnsio drwy hinsawdd sy’n newid
Ydy’r tymhorau wedi newid ers eich plentyndod?
Roedd y cwestiwn hwn yn bwynt cychwyn i Atseiniau ac Angorau, ffilm ddawns gan ddawnswyr hŷn o Teifi Dance yng ngorllewin Cymru, fel rhan o brosiect newid hinsawdd Gwanwyn.
O dan arweiniad y coreograffydd Geraldine Hurl, daeth y grŵp at ei gilydd yn rheolaidd er mwyn trafod newid hinsawdd: eu hatgofion, eu pryderon a’u gobeithion. Yna, crëwyd symudiadau i gyfleu’r sgyrsiau, a chafodd y dawnsiau eu perfformio yn yr awyr agored yng Nghwm-yr-Eglwys, ac ar lan y môr yng Ngwdig ger Abergwaun.
Dyma ddwy ddawns sy’n dehongli atseiniau ac angorau’r symudiadau yn ogystal ag atgofion tymhorau’r gorffennol. Mae’r ffilm gyfan isod.
Tymhorau a fu
Dewisodd pob dawnsiwr atgof am y tywydd neu'r tymhorau, a'i droi'n symudiad syml. Mewn grwpiau bychain, defnyddiwyd y symudiadau i greu dawnsiau creadigol am gyfnod pan oedd gan y tymhorau rhythm cyson a chadarn, gan ddangos bod y rhythmau'n dechrau torri, a'u bod weithiau'n torri'n ddramatig. Edrychwch am symudiadau sy'n dehongli coetir, hen fynwent a dolydd o flodau melyn ger y môr.
Atseiniau ac angorau
Yn yr ail ffilm, mae'r grŵp yn dod at ei gilydd ar lwybr cul ger y môr. Mae'r symudiadau cyfarwydd yn dychwelyd fel 'atseiniau' o'r gorffennol, gan ddefnyddio dawns enwog Pina Bausch 'seasons march' fel ysbrydoliaeth. Y grŵp ei hun yw'r "angor", yn dod at ei gilydd a chreu teimlad o gymuned. Pan fydd y byd yn teimlo fel lle ansicr, mae 'na deimlad o obaith drwy ddod at ein gilydd.
Beth mae'r dawnswyr yn ei ddweud?
"Dim ond ffordd o nodi pa mor hir rydyn ni wedi bod yma ar y blaned yw oedran... Mae pob crych yn dystiolaeth o chwerthin a llawenydd, a phob blewyn gwyn yn fendith sgleiniog... Rydyn ni gyda'n gilydd, dewch i ddawnsio gyda'n gilydd."
"Roeddwn i'n poeni am fynd allan i ganol y gwynt oer bore 'ma, ond dwi 'di dod adre'n teimlo'n barod i fwrw ati a chydio ymhob posibilrwydd newydd."
"Mae eich cefnogaeth, eich brwdfrydedd a'ch caredigrwydd wedi gwireddi fy mreuddwyd o ddawnsio... roeddwn i wrth fy modd!"
Gwanwyn
Trwy ein prosiectau, mae pobl hŷn wedi dod yn ymgyrchwyr brwd dros weithredu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Eleni, cefnogodd Gwanwyn nifer o grwpiau creadigol i ymateb i newid hinsawdd yn eu ffordd eu hun. Mae ffilm Teifi Dance yn un prosiect ymhlith sawl darn arall o waith gyda Creative Lives (Sketching St Fagans) ac Age Cymru Gwynedd a Môn.
Gwyliwch y ffilm gyfan isod.