
Mae pob person hŷn yn haeddu cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi
Helpwch ni i gefnogi pob person hŷn a darparu’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.
Helpwch ni i gefnogi pob person hŷn a darparu’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.
Dychmygwch dreulio wythnos heb siarad â neb.
Yn anffodus, mae miloedd o bobl hŷn yn wynebu sefyllfa fel hyn. Neb i rannu jôc. Neb i ofyn am gymorth. Neb i sylwi bod angen help.
Yn ein cymdeithas, mae nifer o bobl hŷn yn cael eu hanghofio – ac yn aml maen nhw’n wynebu heriau ar eu pen eu hun, yn cynnwys problemau’n ymwneud â thai, gofal, a’r argyfwng costau byw.
Mae 100,000
o bobl hŷn yng Nghymru’n byw ar, neu o dan, y ffin dlodi, ac yn aml maen nhw’n methu fforddio hanfodion fel bwyd addas neu wres.
Mae 91,000
o bobl hŷn yng Nghymru’n teimlo’n unig yn gyson.
Mae 56,000
o bensiynwyr yng Nghymru’n gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn, ond dydyn nhw ddim yn ei hawlio.
Gyda’ch cefnogaeth chi, mae Age Cymru’n medru gwneud gwahaniaeth.
Drwy sicrhau bod pobl yn gwrando ar bobl hŷn a’u gwerthfawrogi.
Mae Cyngor Age Cymru’n darparu gwybodaeth a chyngor arbenigol am ddim i bobl hŷn ledled Cymru, yn ogystal â’u teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Rydyn ni’n ymgyrchu dros hawliau pobl hŷn ac yn herio’r anghydraddoldebau maen nhw’n eu hwynebu. Drwy ein gwasanaethau cyfeillgarwch, rydyn ni’n sicrhau bod gan bobl ddigonedd o gefnogaeth wrth iddyn nhw heneiddio.
Rydyn ni angen eich help chi.
Cafodd 30,000
o bobl gymorth trwy brosiectau a gwasanaethau Age Cymru – a oedd yn helpu pobl hŷn ledled Cymru i ddod o hyd i wybodaeth ac aros yn annibynnol.
Cafodd 12,000
o alwadau ffôn eu gwneud drwy Wasanaethau Cyfeillgarwch Age Cymru – sy’n cynnig cyfleoedd i sgwrsio a chyfeillgarwch i bobl hŷn ledled y wlad.
Datryswyd mwy na 41,000
o broblemau gan Gyngor Age Cymru, sy’n darparu cymorth a chefnogaeth arbenigol i bobl hŷn ledled y wlad.
Mae Age Cymru’n darparu amrywiaeth o wasanaethau, a bydd eich rhodd chi’n gwneud gwahaniaeth mawr.