Wrth dderbyn ceisiadau ynghylch hawliau rydych yn caniatáu i Age Cymru (rhif elusen: 1128436) a'i grŵp o is-gwmnïau ac is-elusennau (Grŵp Age Cymru) ddefnyddio cynnwys eich cyfryngau cymdeithasol personol ("Cynnwys") yn ei ymgyrchoedd marchnata a'i weithgareddau.
Bydd Grŵp Age Cymru yn gofyn am hawl i ddefnyddio'ch Cynnwys trwy adael sylwadau ar eich cyhoeddiadau ar Instagram neu Drydar neu ba bynnag ffordd gall fod yn berthnasol i'r cyfryngau cymdeithasol rydych chi wedi eu defnyddio i gyhoeddi eich Cynnwys. Byddwn yn gofyn am ymateb gennych yn ein hawdurdodi i ddefnyddio eich Cynnwys. Os hoffech roi hawl i ni ddefnyddio eich Cynnwys, atebwch gan ddefnyddio'r hashnod #YesAgeCymru.
Trwy ymateb #YesAgeCymru rydych yn cydnabod ac yn cytuno i'r canlynol:
Rydych yn rhoi trwydded breindal am ddim, trosglwyddadwy, am byth i Grŵp Age Cymru. Rydych yn awdurdodi ein bod yn medru defnyddio'r Cynnwys mewn unrhyw gyfryngau ac at unrhyw ddibenion masnachol a/neu anfasnachol ledled y byd, a all gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig, i'w ddefnyddio ar wefan Age Cymru, unrhyw un o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Age Cymru, cyhoeddiadau, hysbysebu, codi arian, ymgyrchoedd neu ddeunyddiau marchnata eraill;
Gallwn newid a/neu olygu'r Cynnwys mewn unrhyw fodd, neu gyfuno'r Cynnwys â deunyddiau eraill, heb ofyn am ganiatâd pellach gennych;
(i) Eich bod yn berchen ar yr hawlfraint ac yn hepgor unrhyw hawliau moesol yn y Cynnwys, neu bod gennych yr holl hawliau angenrheidiol, cydsyniadau a/neu hepgorion gan y perchennog i uwchlwytho'r Cynnwys i roi'r hawliau a nodir yn y Telerau ac Amodau hyn; (ii) mai chi yw'r person sydd yn y Cynnwys a/neu mae gennych ganiatâd gan unrhyw berson(au) sy'n ymddangos yn y Cynnwys (ac, os ydynt o dan 16 oed, ei riant neu warcheidwad cyfreithiol hefyd) i roi'r hawliau a nodir yn y Telerau ac Amodau hyn; (iii) rydych chi'n 18 oed neu'n hŷn; a (iv) ni fydd ein defnydd o'r Cynnwys yn unol â'r Telerau ac Amodau hyn yn torri unrhyw hawliau eraill gan unrhyw reolau drydydd parti nac unrhyw gyfraith; a
Nad ydych yn gwrthwynebu bod Grŵp Age Cymru yn storio copïau o'r Cynnwys ar unrhyw ffurf at y dibenion a nodir uchod, trosglwyddo'r cynnwys y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu storio'r Cynnwys tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd at y dibenion a nodir uchod.
Rydych yn cydnabod nad oes angen i Grŵp Age Cymru ddarparu hysbysiad ymlaen llaw am unrhyw ddosbarthiad a chynrychiolaeth o'r Cynnwys, nid oes gorfodaeth ar y Grŵp i ddefnyddio'r Cynnwys ac mae gan y Grŵp ddisgresiwn i ddefnyddio neu ddileu'r Cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, o unrhyw gyfathrebu neu gyfryngau heb roi rhybudd ymlaen llaw i chi.
Bydd y cytundeb hwn yn cael ei lywodraethu gan a'i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, a thrwy hyn mae’r holl unigolion yn derbyn awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr.