Datganiad polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Age Cymru

Datganiad polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Age Cymru
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn greiddiol i werthoedd ac amcanion Age Cymru ac yn rhan annatod o gyflawni ein strategaeth. Mae'n hanfodol bod pobl yn cael eu trin yn deg gyda pharch ac urddas ac yn unol â gwerthoedd Age Cymru bob amser.
Mae gwerthoedd Age Cymru fel a ganlyn:
- Rydyn ni'n ofalgar, rydyn ni'n rhoi pobl wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud.
- Rydym yn benderfynol, rydym yn cymryd cyfrifoldeb ac yn ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
- Rydym yn effeithiol, rydym yn ymdrechu am y gorau
- Rydym yn grymuso, rydym yn galluogi pobl, yn meithrin hyder ac yn darparu cymorth ymarferol a
- Rydyn ni'n gynhwysol, rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd ac yn cynnwys eraill.
Ni fydd Age Cymru yn goddef unrhyw wahaniaethu, erledigaeth neu aflonyddu ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol na'r iaith Gymraeg.
Rydyn ni i gyd yn dod o wahanol gefndiroedd, mae gennym strwythurau a pherthnasoedd teuluol gwahanol, yn dod o wahanol leoedd daearyddol, mae gennym wahanol systemau ffydd ac yn credu gwahanol bethau, yn gweld y byd yn wahanol ac mae gennym wahanol alluoedd. Gall y gwahaniaethau fod yn amlwg iawn ond ni ellir gweld rhai.
Bydd Age Cymru yn ymdrechu i gymryd pob cam ymarferol i atal gwahaniaethu (ar unrhyw sail), i nodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n effeithio ar grwpiau penodol ac i hyrwyddo cydraddoldeb, gan ddarparu amgylchedd parchus, cynhwysol, cadarnhaol, cefnogol, heriol i bawb, a grymuso pawb.
Mae Age Cymru yn cydnabod bod gan bob person anghenion, dewisiadau a galluoedd gwahanol ac rydym yn ymdrechu i adlewyrchu'r amrywiaeth hon ym mhopeth a wnawn. Mae hyn yn cynnwys gwneud ein gwasanaethau a'n cynhyrchion yn gynhwysol ac yn hygyrch i bobl o bob sector o'r gymuned a denu a chadw gweithlu amrywiol. Trwy werthfawrogi'r gwahaniaethau hyn yn gadarnhaol a defnyddio gwahanol brofiadau bywyd, priodoleddau a chyfraniadau, bydd Age Cymru yn lle gwell i weithio.
Bydd Age Cymru yn monitro camau gweithredu a gymerir o dan fframwaith ein holl bolisïau, gan gynnwys recriwtio, er mwyn nodi anghydraddoldebau a llunio cynlluniau i fynd i'r afael â nhw, gan sicrhau tegwch o ran triniaeth yn y gwaith o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'n gwerthoedd diwylliannol.