Skip to content
Cyfrannwch

Cynllun yr Iaith Gymraeg Gorffennaf

Welsh language.png 

Cyflwyniad

Mae Age Cymru’n falch iawn i gefnogi’r iaith Gymraeg fel rhan hanfodol o’n cenhadaeth i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n heneiddio’n gyffyrddus.

Rydyn ni’n deall bod iaith yn golygu llawer mwy na chyfathrebu – mae’n golygu hunaniaeth, cysur a chysylltu.  Dyma pam rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu ein gwasanaethau a’n gwybodaeth drwy gyfrwng dwy iaith swyddogol Cymru, gan sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu parchu, eu cynnwys, a’u grymuso i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Rydyn ni'n ymwybodol bod nifer o'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi - yn enwedig pobl hŷn neu bobl sy'n agored i niwed - yn teimlo'n fwy cyffyrddus wrth gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn ni eisiau eu bod nhw'n teimlo'n hyderus, a'u bod nhw'n cael eu cefnogi i ddefnyddio iaith sy'n teimlo'n naturiol iddyn nhw, ac rydyn ni yma i'w cefnogi nhw pob cam o'r ffordd.

Mae'r cynllun hwn yn rhan hanfodol o'n strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac mae'n dangos ein cefnogaeth tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod yna filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Rydyn ni'n edrych 'mlaen i chwarae ein rhan ar y daith genedlaethol hon a byddwn ni'n parhau i fonitro a chryfhau ein hymdrechion er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau'n gwbl ddwyieithog.

Gan edrych tuag at y dyfodol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ennill safon ansawdd 'Cynnig Cymraeg' Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.  Bydd hwn yn cydnabod yn ffurfiol ein hymrwymiad i hyrwyddo a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydyn ni'n benderfynol o fodloni'r safon gyda balchder.

Mae Age Cymru'n trin yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yn gyfartal.  Mae gan bawb sy'n cysylltu â ni - dros y ffôn, yn ysgrifenedig, neu wyneb yn wyneb - yr hawl i wneud hynny gan ddefnyddio iaith sy'n teimlo'n gyffyrddus.  Rydyn ni yma i sicrhau bod y dewis hwnnw'n hawdd ac yn arwyddocaol.

2       Darparu gwasanaethau

Mae Age Cymru eisiau sicrhau bod pawb sy'n cysylltu â ni'n teimlo'n gyffyrddus, yn teimlo bod pobl yn eu deall, ac yn teimlo bod pobl yn eu parchu - os ydyn nhw'n dewis cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.  Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau'n cefnogi'r nod hwn, ac rydyn ni'n cymryd camau gweithredol er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn weledol, yn hygyrch ac yn cael ei dathlu ar hyd ein gwasanaeth. 

Gohebiaeth ysgrifenedig 

  • Rydyn ni wrth ein bodd i dderbyn llythyrau drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddwn ni'n ateb drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd - heb oedi. Rydyn ni'n ymateb yr un mor gyflym yn y ddwy iaith, oherwydd ein bod ni'n eu trin yn gyfartal.  Os oes rhywun yn siarad gyda ni drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwn ni'n parhau gyda'r sgwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein gohebiaeth ddilynol, heblaw eu bod nhw'n dewis peidio gwneud hynny.
  • Pan rydyn ni’n gwybod bod yn well gan unigolyn, grŵp, neu sefydliad gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwn ni’n ysgrifennu atyn nhw’n Gymraeg pan fydd hynny’n bosib. Pan rydyn ni’n anfon gohebiaeth gyffredinol, er enghraifft llythyrau safonol ar gyfer amrywiaeth o bobl, byddwn ni’n darparu llythyrau dwyieithog heblaw ein bod ni’n siŵr fod yn well gan bawb gyfathrebu drwy gyfrwng yr un iaith.
  • Bydd ein holl ddeunydd marchnata a hyrwyddo yn cael eu hanfon gydag atodiad dwyieithog, er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynnwys.

Galwadau ffôn

  • Rydyn ni’n croesawu galwadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan fyddwch chi’n ffonio ein prif rifau ffôn, byddwch chi’n derbyn cyfarchiad dwyieithog – “Bore da / Good morning” neu “Prynhawn da / Good afternoon” – a byddwch chi’n medru dewis pa iaith hoffech chi ei defnyddio er mwyn cyfathrebu gyda ni. 
  • Mae ein tîm yn dilyn canllawiau er mwyn cefnogi galwyr sy’n dewis siarad Cymraeg, ac rydyn ni’n cynnal cyfeiriadur mewnol o staff sy’n siarad Cymraeg er mwyn helpu i drosglwyddo galwadau’n hawdd. Os na fyddwn ni’n medru parhau gyda galwad drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwn ni’n gweithio gyda’r galwr i ddod o hyd i’r ateb gorau – efallai bydd hyn yn golygu galwad ddilynol gyda chyd-weithiwr sy’n siarad Cymraeg, neu opsiwn teg arall.
  • Mae ein negeseuon ar y peiriannau ateb ar ein llinellau cyffredinol yn ddwy-ieithog, a rydyn ni’n ateb ymholiadau drwy’r Gymraeg a’r Saesneg o fewn yr un cyfnod o amser.

Cleientiaid 

  • Rydyn ni’n annog pob cleient i ymgysylltu gyda ni drwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna yw eu dymuniad. Byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i barhau gyda’r sgwrs drwy gyfrwng y Gymraeg wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ar-lein.  Os na fydd hynny’n bosib ar y pryd, byddwn ni’n trefnu opsiwn arall – er enghraifft trefnu bod aelod o’r tîm sy’n siarad Cymraeg yn cysylltu gyda’r cleient.

Cyfarfodydd 

  • Rydyn ni eisiau trefnu cyfarfodydd cyhoeddus cynhwysol a chroesawgar. Bydd ein cyhoeddusrwydd a deunydd ysgrifenedig yn ddwyieithog, ac os fydd mwy na 10% o’r mynychwyr yn dewis siarad Cymraeg neu os fyddwn ni’n gwybod bod cyfranwyr yn siaradwyr Cymraeg, byddwn ni’n darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Cyhoeddusrwydd, Hysbysebu, Deunydd Ysgrifennu & Arwyddion 

  • Mae’r iaith Gymraeg yn weladwy ac yn rhan werthfawr o’n presenoldeb cyhoeddus. Rydyn ni’n sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu cyflwyno’n gyfartal yn ein taflenni, ein canllawiau, ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn ein harddangosfeydd.  Mae’r ddwy iaith yn cael eu harddangos gan ddefnyddio’r un ysgrifen, steil, ac ansawdd.
  • Bydd ein holl ddeunydd sy’n cael ei argraffu, yn cynnwys papurau â phenawdau, cardiau busnes, a slipiau cyfarch, yn ddwyieithog. Bydd ein harwyddion – tu fewn a thu allan ein hadeiladau – yn ddwyieithog, gan sicrhau bod pawb yn teimlo’n gartrefol.

Cyhoeddiadau

  • Bydd pob cyhoeddiad newydd gan Age Cymru’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau ar ffurf un ddogfen ddwyieithog, ond pan fydd angen dwy fersiwn wahanol, byddwn ni’n sicrhau bod y ddwy fersiwn yn hygyrch ac o’r un ansawdd.
  • Mae ein dogfennau Cymraeg yn cael eu darllen yn ofalus gan weithwyr proffesiynol cymwys er mwyn sicrhau ansawdd a chysondeb.
  • Mae hyn yn cynnwys popeth, er enghraifft taflenni, posteri, canllawiau, tystysgrifau a chynnwys digidol – rydyn ni’n credu dylai’r iaith Gymraeg fod yn rhan o bob llwyfan rydyn ni’n eu defnyddio.

Ffurflenni

  • Ein nod yw cynhyrchu ffurflenni dwyieithog. Pan na fydd un ffurflen ddwyieithog yn addas, byddwn ni’n defnyddio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg ar yr un pryd, gan sicrhau bod y ddwy ffurflen yn hawdd i’w defnyddio, a’i bod hi’n hawdd i bobl ddod o hyd iddynt.

Datganiadau i’r Wasg

  • Rydyn ni wedi ymrwymo i wella ein gallu i ddarparu datganiadau i’r Wasg yn ddwyieithog. Bydd materion sy’n ymwneud â diwylliant Cymraeg yn cael eu cyhoeddi mewn datganiadau i’r Wasg, a bydd siaradwr Cymraeg yn ein cynrychioli ni pan fydd hynny’n bosib.

Hysbysebu Swyddi

  • Rydyn ni’n annog siaradwyr Cymraeg i wneud ceisiadau am swyddi gydag Age Cymru. Gan ddefnyddio Fframwaith Sgiliau’r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n asesu’r angen am sgiliau Cymraeg ar gyfer pob rô
  • Bydd hysbysebion mewn papurau newydd yng Nghymru yn ddwyieithog, heblaw bod yna reswm clir am beidio gwneud hynny. Pan fydd hi’n hanfodol bod deiliad swydd yn siarad Cymraeg, byddwn ni’n hysbysebu’r swydd yn y Gymraeg gydag eglurhad byr yn y Saesneg.  Mae’n bosib byddwn ni’n hysbysebu swydd mewn cyhoeddiadau Cymraeg hyd yn oed pan na fydd sgiliau Cymraeg yn ofynnol, er mwyn dangos ein bod ni’n cefnogi’r iaith ac wedi ymrwymo i gyrraedd cynulleidfa eang.

Llywodraethu 

  • Rydyn ni’n adolygu sgiliau aelodau ein Bwrdd yn rheolaidd, ac rydyn ni’n gweithio’n galed i recriwtio rhagor o siaradwyr Cymraeg. Mae gwneud hyn yn ein helpu ni i gynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn elfen bwysig o bobl lefel o’n sefydliad.

3     Gweithredu’r Cynllun

Ansawdd 

Bydd gwasanaethau sy’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Saesneg neu’r Gymraeg o safon gydradd uchel, ac yn cael eu darparu o fewn yr un cyfnod o amser.

Staffio

Mae angen bod gan Age Cymru ddigon o staff â sgiliau addas sy’n siaradwyr Cymraeg er mwyn sicrhau bod y cynllun yn llwyddiannus.  Cyfrifoldeb y Tîm o Uwch-reolwyr yw adolygu swyddi ble mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, neu ble fydd sgiliau Cymraeg yn ddefnyddiol er mwyn darparu gwasanaethau mewn ffordd sy’n bodloni’r cynllun hwn.

Mae staff sy’n siarad Cymraeg yn cael eu hannog i wisgo bathodynnau ‘Iaith Gwaith’ Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.  Mae hyn yn helpu cwsmeriaid i adnabod siaradwyr Cymraeg (mewn digwyddiadau cyhoeddus yn bennaf).  Mae staff yn cael eu hannog i ddefnyddio logo ‘Iaith Gwaith’ mewn llofnodion awtomatig am yr un rheswm.

Hyfforddiant iaith

Bydd hyfforddiant iaith yn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu nifer y staff sy’n medru cyfathrebu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd Age Cymru’n annog staff i fynychu cyrsiau addas.  Bydd Swyddog yr Iaith Gymraeg yn cynnal sesiynau hyfforddi’r iaith Gymraeg yn fewnol os oes galw.

Mae’r blaenoriaethau canlynol am hyfforddiant wedi cael eu nodi:

  • annog holl aelodau o staff sydd eisiau dysgu Cymraeg i wneud hynny, er mwyn eu galluogi nhw i ymdopi gyda holiadau syml gan aelodau o’r cyhoedd;
  • cynorthwyo a chefnogi staff sydd â lefel angenrheidiol o ymrwymiad i gymryd rhan mewn hyfforddiant iaith i ddysgu Cymraeg, neu i wella eu sgiliau Cymraeg. Mae’n bosib bydd hyn yn helpu tuag at gostau unrhyw gyrsiau a/neu ganiatáu staff i fynychu’r cwrs yn ystod oriau gwaith.

Technoleg

Bydd gwefan Age Cymru’n ddwyieithog, mor bell a bod hynny’n ymarferol.  Mae’r wefan yn medru newid yn uniongyrchol o’r Gymraeg i’r Saesneg, ac o’r Saesneg i’r Gymraeg.

Mae tudalennau gwe’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu hadolygu a’u diweddaru ar yr un pryd, mor bell a bod hynny’n ymarferol.

4     Monitro’r Cynllun ac Adrodd am Berfformiad 

Bydd Age Cymru’n monitro’r perfformiad a’r ymrwymiadau sy’n cael eu gwneud yn y Cynllun hwn.

Dyma elfennau eraill y system fonitro:

Bydd cwynion, ysgrifenedig ac ar lafar, wrth aelodau o’r cyhoedd, am fethiant i gydymffurfio gyda’r Cynllun, yn cael eu cynnwys yn y broses monitro cwynion.

  • cyfran o gyfathrebiadau drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg sy’n cael eu hateb o fewn y terfyn amser;
  • defnydd o gyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus;
  • cyfran o gyhoeddiadau a ffurflenni sy’n cael eu cynnig yn ddwyieithog, a’r rhesymau nad yw dogfennau eraill yn ddwyieithog;
  • nifer a dosraniad siaradwyr Cymraeg o fewn Age Cymru;
  • nifer yr aelodau o staff sy’n cymryd cyrsiau dysgu Cymraeg;
  • pa mor ddwyieithog yw Age Cymru, e.e., arwyddion, papurau â

Bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn addas

5     DATGANIAD AM GWYNION:

Mae Age Cymru’n derbyn cwynion drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd Age Cymru’n monitro pa mor dda maen nhw’n bodloni’r ymrwymiadau yn y Cynllun.  Os na fydd Age Cymru’n bodloni’r ymrwymiadau, rydyn ni’n gobeithio bydd y cyhoedd yn cysylltu gyda ni.  Os hoffech chi wneud cwyn am wasanaethau Age Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg, anfonwch lythyr at:

Age Cymru: 

          Pennaeth Gweithrediadau

               Age Cymru

               Tŷ’r Morwyr

               Ffordd Ddwyrain Moors

               Caerdydd

               CF24 5TD

          Ffôn: 02920 431555

 

Last updated: Ion 29 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top