Skip to content
Cyfrannwch

Codi arian

Ydych chi eisiau helpu rhywun i newid eu bywyd? Wrth godi arian ar gyfer Age Cymru, rydych chi'n ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn.

Gallwch godi arian drwy wneud nifer o bethau gwahanol

Gallwch godi arian ar gyfer Age Cymru drwy wneud nifer o bethau gwahanol. Gallwch chi redeg, seiclo neu awyrblymio, gweu, canu neu bobi. Mae'r arian rydych chi'n ei gasglu'n ein helpu ni i gefnogi pobl hŷn.

Syniadau am sut i godi arian

Dewch o hyd i syniadau isod, neu ewch ati i ddarllen ein rhestr o syniadau.

Eich canllaw codi arian (am ddim)

Dewch o hyd i gyngor arbenigol, syniadau am sut gallwch chi godi arian, a chyngor am sut i drefnu digwyddiad neu her yn ein canllaw codi arian (am ddim).

Pa fath o ddigwyddiad ydych chi'n ei drefnu?

Rydyn ni eisiau gwybod am eich digwyddiad a'ch cynlluniau. Cysylltwch â ni!

Cyflwyno eich arian

Defnyddiwch ein ffurflen gyfrinachol i dalu'r arian rydych chi wedi ei gasglu. Mae'n hawdd. Os hoffech chi gyflwyno'r arian heb fynd ar-lein, cysylltwch â fundraising@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555.

Ewch ati i greu tudalen godi arian ar gyfer Age Cymru ar JustGiving

Mae'n ffordd syml o gasglu arian a rhoi gwybod i bawb eich bod chi'n codi arian ar gyfer Age Cymru.

Creu tudalen Just Giving

Rydym wedi cofrestru gyda'r Rheoleiddiwr Codi Arian

Darllenwch yr addewid ynghylch codi arian

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top