Skip to content
Cyfrannwch

Cyngerdd Carolau Nadolig Age Cymru

🎄 Cyngerdd Carolau Nadolig Age Cymru – Noson Arbennig o Gerddoriaeth a Haelioni🎶


Dewch i fwynhau Noson o Garolau yng Nghyngerdd Age Cymru, a dathlu tymor yr ŵyl gyda cherddoriaeth a charedigrwydd er mwyn cefnogi pobl hŷn ledled Cymru.

📅Dyddiad: Dydd Gwener, 12fed o Ragfyr
🕢Amser: 7:30PM
📍Lleoliad: Eglwys y Bedyddwyr Rhiwbeina, Caerdydd
🎟️Tocynnau: £15 (mae tocynnau ar gael i’r teulu)

Dewch i fwynhau noson arbennig gyda Band Pres Cymuned Melingriffith a nifer o berfformwyr talentog eraill. Bydd yna luniaeth a raffl, a bydd parcio ar gael dros yr hewl.

Bydd rhoddion yn helpu Age Cymru i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, fel ein gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn a Chyngor Age Cymru, sy’n cefnogi pobl ledled Cymru.

Archebwch eich tocynnau heddiw:
🎟️ Ewch i: Tocynnau Cyngerdd Carolau Nadolig Age Cymr

Neu ffoniwch 02920 431 544

Dewch at ein gilydd i greu Nadolig Llawen iawn i bobl yn ein cymunedau sydd angen cefnogaeth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu!

 

 

Last updated: Hyd 15 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top