Skip to content
Cyfrannwch

Llesiant preswylwyr

Llesiant sydd wrth wraidd gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Nghymru. Mae hyn yn golygu cefnogi iechyd emosiynol, corfforol a chymdeithasol pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.

Mae llesiant yn dibynnu ar ymdeimlad o bwrpas yr unigolyn, yn ogystal â’u cysylltiad â’r gymuned a’u hurddas. Pan mae cartrefi gofal yn creu amgylchedd ble mae preswylwyr yn teimlo’n ddiogel, ble maen nhw’n cael eu parchu a’u grymuso, mae pob cam o fywyd unigolion mewn cartrefi gofal yn fwy boddhaus.

Wrth flaenoriaethu llesiant, rydyn ni’n gwella ansawdd bywyd unigolion ac yn cryfhau perthnasau ac adeiladu cymunedau bywiog mewn sefydliadau sy’n darparu gofal yng Nghymru.

Mae Age Cymru wedi creu’r pecyn cymorth hwn er mwyn casglu adnoddau defnyddiol a sicrhau bod staff cartrefi gofal, teuluoedd, ffrindiau a phreswylwyr yn medru creu amgylchedd delfrydol er mwyn cefnogi a chynnal llesiant. 

Cefnogi llesiant preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal – Pecyn Cymorth

Ysgrifennwyd y pecyn cymorth ar gyfer staff mewn cartrefi gofal, yn ogystal â ffrindiau, teuluoedd a phreswylwyr. 

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top