Skip to content
Cyfrannwch

Cefnogi llesiant preswylwyr

Mae Age Cymru wedi creu’r pecyn cymorth hwn er mwyn casglu adnoddau defnyddiol a sicrhau bod staff cartrefi gofal, teuluoedd, ffrindiau a phreswylwyr yn medru creu amgylchedd delfrydol er mwyn cefnogi a chynnal llesiant. 

Cefnogi llesiant preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal – Pecyn Cymorth

  • Symud i fyw mewn cartref gofal: Teimlo bod croeso i chi

    Mae cefnogi rhywun wrth iddyn nhw symud i fyw mewn cartref gofal yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch seicolegol i unigolyn, a gall gael effaith gadarnhaol ar allu preswylwyr i deimlo’n gartrefol mewn cartref gofal.
  • Gweithgareddau ystyrlon: Gwneud yn siŵr bod preswylwyr yn teimlo’n gartrefol

    Mae mynediad at weithgareddau ystyrlon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn galluogi preswylwyr i ymlacio, cadw’n heini, cymdeithasu neu myfyrfio, dysgu sgil newydd, bod yn greadigol a dangos eu personoliaeth.
  • Pwrpas, pwysigrwydd a chyrhaeddiad

    Gall cartrefi gofal gynnig cyfleoedd i breswylwyr deimlo’n rhan o’r cartref drwy eu cefnogi i ddweud eu dweud am eu bywydau pobl dydd, a rhoi swyddi bach i breswylwyr sy’n gysylltiedig â’u diddordebau, sy’n helpu i gefnogi bywyd pob dydd yn y cartref.
  • Diwedd da: Y Pethau Pwysig

    Mae sicrhau bod diwedd oes preswyliwr yn gyffyrddus yn medru cael effaith gadarnhaol ar lesiant eu teulu a’u ffrindiau, yn ogystal â staff y cartref gofal.

Beth ydych chi’n feddwl?

Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich adborth a’ch sylwadau am sut mae’r pecyn cymorth hwn wedi’ch galluogi i gefnogi eich preswylwyr a’u hanwyliaid.

 

Last updated: Medi 25 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top