Skip to content
Cyfrannwch

Drws agored, bywydau cysylltiedig

Creu cysylltiadau cryf rhwng cartrefi gofal a chymunedau yng Nghymru.

Mae cartrefi gofal yn darparu mwy na gofal; maen nhw’n rhan o’n cymunedau. Maen nhw’n llawn straeon, cyfeillgarwch, creadigrwydd a bywyd.

Mae Agor drysau, bywydau cysylltiedig yn ymgyrch genedlaethol sy’n cael ei harwain gan Age Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgyrch yn:

• Helpu pobl i ddeall pa mor bwysig yw perthynas gryf rhwng y gymuned a chartrefi gofal
• Herio stereoteipiau hen-ffasiwn am heneiddio a gofal preswyl
• Galluogi pobl i ymgysylltu – rhoi adnoddau i gartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a chymunedau fedru cysylltu’n effeithiol

Gyda’n gilydd, gallwn ni greu cymunedau ble mae pawb yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u cysylltu.

Adnoddau’r ymgyrch

Rydyn ni wedi datblygu adnoddau ymarferol am ddim er mwyn helpu grwpiau gwahanol i gymryd rhan yn yr ymgyrch.

Gall unrhyw un gymryd rhan

Ewch i ymweld â’ch cartref gofal lleol, neu gwirfoddolwch

  • Rhannwch negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #AgorDrysauBywydauCysylltiedig
  • Sefydlwch bartneriaeth drwy eich ysgol, eich grŵp cymunedol neu’ch sefydliad
  • Siaradwch gyda’ch rhwydweithiau am agweddau cadarnhaol bywyd mewn cartref gofal

Rhowch wybod i ni sut rydych chi wedi cysylltu gyda’ch cartref gofal lleol: carehomes@agecymru.org.uk

 

Last updated: Tach 04 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top