Ffoniwch 9am – 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Galwad ffôn am ddim. Byddwn ni’n eich paru chi gydag un o’n gwirfoddolwyr. Mae ein gwasanaeth yn hyblyg er mwyn gweddu i anghenion pob un sy’n cymryd rhan.
Mae Age Cymru’n awyddus i newid y ffordd rydyn ni’n heneiddio.
Dyma sut mae Age Cymru’n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru gyda’ch cefnogaeth chi.
Mae ein prosiect eiriolaeth dementia annibynnol yn galluogi pobl sydd a diagnosis o ddementia i gael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd ei angen arnoch chi a chael effaith ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Mae’r gwasanaeth yma i'ch cefnogi drwy sefyllfaoedd lle gallech gael eich cam-drin ac angen dod o hyd i atebion diogelu.
Mae'r eiriolaeth rydyn ni'n ei gynnig yn annibynnol o unrhyw wasanaeth arall y mae pobl sy'n byw gyda dementia yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu bod yr unigolyn â dementia wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a gallwn eu cefnogi a'u cynrychioli heb unrhyw wrthdaro buddiannau.