Skip to content
Cyfrannwch

Eiriolaeth Dementia

Mae ein prosiect eiriolaeth dementia annibynnol yn galluogi pobl sydd a diagnosis o ddementia i gael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd ei angen arnoch chi a chael effaith ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Mae’r gwasanaeth yma i'ch cefnogi drwy sefyllfaoedd lle gallech gael eich cam-drin ac angen dod o hyd i atebion diogelu.

Bydd yr eiriolaeth rydyn ni'n ei gynnig yn annibynnol o unrhyw wasanaeth arall y mae pobl sy'n byw gyda dementia yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y bydd yr unigolyn â dementia wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a gallwn eu cefnogi a'u cynrychioli heb unrhyw wrthdaro buddiannau.


  • Gwybodaeth am ein prosiect eiriolaeth dementia

    I'r rhan fwyaf o bobl, mae gwneud eu penderfyniadau a'u dewisiadau eu hunain yn fater o gryn bwysigrwydd. Mae bod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau lle mae hunan-hunaniaeth yn cael ei fynegi yn agwedd bwysig ar ryddid personol. Mae'r egwyddor hon wrth wraidd gwasanaethau eirioli i bobl sydd a diagnosis o ddementia.
  • Cysylltu â'r tîm

    Dod o hyd i fanylion cyswllt ein tîm eiriolaeth dementia

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top