Skip to content
Cyfrannwch

Gwybodaeth am HOPE

Bydd y prosiect cyffrous hwn yn cefnogi pobl i ymgysylltu, cymryd rhan, dod o hyd i wybodaeth, sicrhau bod pobl yn clywed eu lleisiau, deall eu hawliau, gwneud dewisiadau, bod yn rhan o'r broses, rhannu profiadau, codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth, a datblygu sgiliau a gwybodaeth.

Beth mae HOPE yn ei gyflawni?

Mae HOPE yn darparu cefnogaeth eiriolaeth annibynnol ar lefel gymunedol drwy ystod o fodelau eiriolaeth drwy recriwtio ac yna hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr prosiect. Nod HOPE yw cefnogi pobl pan maent yn dechrau profi anawsterau er mwyn atal y sefyllfa rhag datblygu fewn i argyfwng. Rydyn ni eisiau helpu pobl i gael yr help a'r cymorth sydd ei angen arnynt ar y pwynt cynharaf, ac rydyn ni'n gwybod bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith fawr ar fywydau pobl hŷn. Gallai fod angen mwy o gefnogaeth arnynt nag erioed i ailgysylltu gyda'u cymunedau ac i gael mynediad at wasanaethau.

Mae HOPE yn darparu eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn (50+) a gofalwyr ledled Cymru. Mae staff a gwirfoddolwyr HOPE hefyd yn ymgysylltu â chymunedau sydd yn medru ein cynghori er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn addas ar gyfer anghenion pobl hŷn a gofalwyr yn eu cymunedau. Nid ydym eisiau dyblygu gwasanaethau sydd eisoes ar gael ond yn hytrach rydym am wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'r darparwyr a'r fforymau eiriolaeth presennol ledled Cymru ac yn eu hategu.

Mae HOPE yn nodi ac yn cefnogi Llysgenhadon Eiriolaeth a fydd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a dewisiadau, a phwysigrwydd, manteision a chanlyniadau eiriolaeth. Mae HOPE yn hyrwyddo eiriolaeth yn ei holl ffurfiau i ddangos pa mor bwysig ydyw a pha wahaniaeth y gall ei wneud.

Mae HOPE wedi sefydlu rhaglen o hyfforddiant, gweithdai a digwyddiadau sy'n galluogi eiriolwyr ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth. Bydd hyfforddiant a gweithdai hefyd ar gael i weithwyr proffesiynol eraill a fyddai'n elwa o fwy o ymwybyddiaeth o eiriolaeth a sut i gael mynediad iddo.

Ble a phryd y bydd y prosiect yn darparu ei wasanaethau?

Prosiect yw hwn i Gymru gyfan ond byddwn yn gweithio ar draws rhanbarthau gyda staff rhanbarthol.

Pwy yw partneriaid y prosiect?

  • Age Cymru
  • Age Cymru Dyfed
  • Age Cymru Gwent
  • Age Cymru Gwynedd a Môn
  • Age Cymru Powys
  • Age Cymru Gorllewin Morgannwg
  • Age Connects Caerdydd a'r Fro
  • Age Connects Morgannwg
  • Age Connects Castell-nedd Port Talbot
  • Age Connects Gogledd-ddwyrain Cymru
  • Age Connects Canol Gogledd Cymru
  • Age Connects Torfaen

Sut alla i wneud atgyfeiriad at HOPE?

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein neu lawrlwythwch ein ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd atom gan ddefnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen.

Sut alla i ddarganfod mwy o wybodaeth?

Am fwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top