Adroddiadau ac adnoddau gofalwyr
Isod gwelir rhai o'r canllawiau, adroddiadau ac adnoddau y gallech ddod o hyd i ddefnydd.
Gweithio gyda gofalwyr hŷn - Adnodd arferion da ar gyfer staff cartrefi gofal
Canllaw i gartrefi gofal o ran cynnwys gofalwyr di-dâl wrth drosglwyddo i gartref gofal.
Gweithio gyda gofalwyr hŷn - Adnodd arferion da ar gyfer staff cartrefi gofal
Fideo sy'n tynnu sylw at rôl hanfodol gofalwyr hŷn wrth i bobl symud i fyw mewn cartrefi gofal, wedi'i greu ar gyfer staff mewn cartrefi gofal.
Canllaw arferion da - Adnabod a chefnogi gofalwyr hŷn di-dâl wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty
Canllaw ar gyfer staff mewn ysbytai sy'n ymwneud â chynllunio a phenderfyniadau rhyddhau.
Canllaw arferion da - Adnabod a chefnogi gofalwyr hŷn di-dâl wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty
Fideo ar gyfer staff mewn ysbytai sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys gofalwyr hŷn mewn prosesau rhyddhau cleifion o'r ysbyty, gan helpu i leihau'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn gorfod dychwelyd i’r ysbyty.
Canllaw arferion gorau - Adnabod a chefnogi gofalwyr hŷn di-dâl adnodd arferion da mewn gofal sylfaenol
Canllaw ar gyfer leoliadau gofal sylfaenol ar nodi a chefnogi gofalwyr di-dâl.
Eich hawliau fel gofalwr
O'r hawl i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, i gael ystyried eich barn, mae gan ofalwyr di-dâl hawliau penodol wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Rydym wedi cynhyrchu'r daflen hon i'ch helpu i ddeall eich hawliau fel gofalwr di-dâl.
Gwneud Perthynas Gyfrif
Canllaw sy'n canolbwyntio ar y materion ymarferol ac emosiynol y mae pobl yn aml yn dod ar eu traws wrth benderfynu cefnogi rhywun i symud i gartref gofal.
Gofalu am rywun â dementia
Mae'r canllaw hwn, a gyhoeddir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn adnodd cynhwysfawr sy'n dwyn ynghyd wybodaeth ymarferol a chanllawiau emosiynol y mae angen i ofalwyr gefnogi eu lles eu hunain.
Adroddiad ar Arolwg Gofalwyr Hŷn 2022 Age Cymru
Yn dilyn ein hadroddiad "Am y Foment" yn 2020, mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau arolwg tebyg o ofalwyr di-dâl hŷn yn ystod 2022. Mae'n datgelu, ymhlith pethau eraill, gwahaniaethau mewn gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i ofalwyr ledled y wlad.
Am y Tro – crynodeb o ganfyddiadau gofalwyr hŷn
Yn ystod Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2020 lansion ni ein harolwg Gofalwyr Cudd a oedd yn gofyn am farn a mewnbwn gofalwyr di-dâl hŷn ledled Cymru nad oeddent yn derbyn cefnogaeth ffurfiol. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau'r arolwg hwnnw.
Am y Tro - crynodeb o ganfyddiadau gofalwyr hŷn
Adnoddau Meddygon Teulu
Datblygwyd yr adnoddau hyn ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2021, ac mae'r adnoddau hyn i feddygon teulu a'r rhai sy'n gweithio o fewn lleoliadau gofal iechyd sylfaenol yn anelu at adnabod gofalwyr hŷn ar adegau cyswllt allweddol. Er i'r adnoddau yma gael eu datblygu yn benodol ar gyfer wythnos gofalwyr, mae modd eu defnyddio ar unrhyw adeg i helpu gofalwyr, yn enwedig gofalwyr hŷn, i adnabod eu hunain i ofal sylfaenol.