Gwybodaeth am y prosiect
Mae Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n gweithio mewn partneriaeth ar brosiect gofalwyr hŷn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Amcangyfrifir bod gofalwyr hŷn yn gyfrifol am 96% o’r gofal a’r gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu mewn cartrefi ledled Cymru. Mae’r ganran hon werth £10.6 biliwn i economi Cymru’n flynyddol.
Mae gofalwyr hŷn yn sylfaen hanfodol i'n systemau iechyd a gofal cymdeithasol – ond heb gymorth effeithiol, mae’n bosib bydd y straen corfforol, meddyliol, emosiynol ac ariannol yn mynd yn ormod i ofalwyr.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi hawliau cyfreithiol gofalwyr di-dâl. Mae’r ddeddf yn sail i ddull ataliol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, o wella llesiant, atal problemau rhag gwaethygu, a sicrhau bod gofalwyr yn cael cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth gywir ac amserol.
Mae’r ffordd mae gofalwyr yn cael eu cefnogi wedi gwella, ond mae yna heriau o hyd.
Nid yw llawer o’r bobl sy’n darparu gofal yn ein cymunedau yn gweld eu hun fel gofalwyr, a dydyn nhw ddim yn ymwybodol o’u hawliau. Nid yw nifer ohonyn nhw’n gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael, na sut i ddod o hyd iddo.
Mae nifer o bobl yn wynebu amrywiaeth o heriau wrth geisio dod o hyd i gefnogaeth.
Yn 2024-2025, canolbwyntiodd y prosiect ar wella prosesau gwahanol yn cynnwys adnabod gofalwyr, darparu cefnogaeth i ofalwyr sy’n defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol, rhyddhau cleifion o’r ysbyty, a’r ffordd mae pobl yn symud i fyw mewn cartrefi gofal.
Rydyn ni wedi datblygu canllaw er mwyn sicrhau bod gofalwyr hŷn yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt wrth iddyn nhw ddechrau darparu gofal. Rydyn ni hefyd wedi darparu hyfforddiant i staff sy’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymru er mwyn eu helpu i adnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl.
Rydyn ni wedi datblygu canllaw sy’n helpu staff mewn ysbytai i ryddhau cleifion yn amserol ac yn ddiogel. Rydyn ni wedi darparu hyfforddiant hefyd, er mwyn helpu staff i adnabod a chefnogi gofalwyr hŷn ledled Cymru.
Rydyn ni wedi datblygu canllaw ar gyfer staff mewn cartrefi gofal er mwyn cefnogi pobl sy’n symud i fyw mewn cartrefi gofal. Rydyn ni hefyd wedi darparu hyfforddiant i staff mewn cartrefi gofal. Cynhaliom weminar ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y meysydd gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn pwysleisio pa mor bwysig yw rôl y gofalwr.
Cliciwch yma i wylio recordiadau o sesiynau hyfforddi prosiect 2024-25.
Os oes angen gwybodaeth neu gyngor arnoch, ffoniwch ein llinell Cyngor i Ofalwyr ar 03300 564 365, neu ewch i dudalen we Cyngor i Ofalwyr.