Mesurydd Clyfar
Gyda mesurydd clyfar, gallwch chi gadw llygad ar sut rydych chi’n defnyddio ynni – gallai fod yn ychwanegiad defnyddiol i'ch cartref.
Mae mesurydd clyfar yn cofnodi faint o nwy a thrydan rydych chi'n ei ddefnyddio ac yn anfon darlleniadau rheolaidd yn awtomatig i'ch cyflenwr ynni. Bydd eich biliau’n fwy cywir ac yn seiliedig ar yr ynni rydych chi wedi'i ddefnyddio, yn hytrach nac amcangyfrif. Nid oes angen mynediad i'r rhyngrwyd er mwyn cael mesurydd clyfar.
Mae mesuryddion clyfar yn dod â dyfais fach sy’n hawdd i’w ddefnyddio. Gelwir y ddyfais yn 'declyn arddangos yn y cartref'. Mae’r ddyfais yn eistedd yn eich cartref ac yn caniatáu ichi weld faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio mewn oriau cilowat (kWh) ac yn union faint mae'n ei gostio i chi mewn punnoedd a cheiniog.
Gallwch chi ddefnyddio'r teclyn i weld a ydych chi'n defnyddio mwy o ynni nag arfer, er enghraifft os ydych chi wedi bod yn defnyddio dyfais sy'n defnyddio llawer o ynni. Gallai hynny eich helpu i leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio.
Rhagor o wybodaeth am fesuryddion clyfar ar wefan Smart Energy GB
A oes angen mynediad i'r rhyngrwyd i gael mesurydd clyfar?
Mae mesuryddion clyfar yn defnyddio rhwydwaith mesuryddion clyfar diogel, felly ni fydd angen bod eich cartref wedi ei gysylltu â’r rhyngrwyd.
Beth os ydw i'n rhentu fy nghartref?
Gallwch gael mesurydd clyfar os ydych chi'n rhentu eich cartref.
Os yw'r biliau ynni yn eich enw chi, gallwch ddewis gosod mesurydd clyfar. Ond mae'n werth rhoi gwybod i’ch landlord cyn gwneud hyn.
Os nad ydych chi'n talu eich biliau ynni, gallwch ofyn i'ch landlord am fesurydd clyfar.
Beth os oes gennyf fesurydd rhagdalu?
Os ydych chi ar fesurydd rhagdalu, gallwch gael mesurydd clyfar. Bydd eich mesurydd clyfar yn dangos i chi pryd mae angen mwy o gredyd arnoch.
Gallwch barhau i brynu ychwanegiadau mewn siop, yn ogystal â phrynu ar-lein neu defnyddiwch eich ffôn symudol.
Mae'n werth cael mesurydd clyfar os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun
Hyd yn oed os mai dim ond chi sydd yn y tŷ, gall mesurydd clyfar eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio.
Byddwch chi’n cael biliau mwy cywir, ac ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno darlleniadau mesurydd.
Gall eich mesurydd clyfar eich helpu i weld os ydych chi wedi diffodd teclynnau sy’n defnyddio llawer o ynni yn eich cartref.
Os oes gan eich gofalwr fynediad i'ch biliau, gall hyn eu helpu i adnabod unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig ag ynni.
Manteision mesurydd clyfar
Mae mesuryddion clyfar yn cofnodi faint yn union o nwy a thrydan rydych chi'n ei ddefnyddio, ac yn anfon y wybodaeth hon i'ch cyflenwr yn awtomatig, felly nid oes rhaid i chi gymryd a chyflwyno darlleniadau mesurydd mwyach. Hefyd, byddwch chi’n derbyn biliau cywir, felly byddwch chi ond yn talu am yr ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae'n syniad da i wirio bod eich biliau yn cyfateb i'r swm o ynni rydych chi wedi'i ddefnyddio.
Gall mesurydd clyfar eich helpu i reoli faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. Pan fyddwch chi’n medru gweld a deall sut rydych chi’n defnyddio ynni a'ch costau, rydych chi'n debygol o reoli eich defnydd yn well.
Gyda mesurydd clyfar, gallech chi gael eich gwobrwyo gan eich cwmni ynni am ddefnyddio ynni pan fydd pobl eraill yn defnyddio llai, er enghraifft wrth olchi dillad neu wrth goginio yn ystod adegau tawel.
Siaradwch â'ch cyflenwr ynni am ba dariffau fyddai'n addas i chi.
Sut fedra i gael mesurydd clyfar?
Os hoffech chi gael mesurydd clyfar, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni er mwyn cael rhagor o wybodaeth. Efallai y bydd eich cyflenwr yn medru rhoi dyddiad i chi er mwyn gosod mesurydd clyfar. Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o gysylltu â’ch cyflenwr. Mae eu holl fanylion cyswllt ar eich bil ynni.