Skip to content
Cyfrannwch

Arolwg Blynyddol

Three people sat together talking

Arolwg Beth sy'n bwysig i chi?

Dyma chweched arolwg blynyddol Age Cymru a gynhaliwyd mewn partneriaeth â'r pedwar sefydliad cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn. Eleni clywsom gan 1700 o bobl 50 oed neu’n hŷn o bob rhan o Gymru am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Dywedodd pobl hŷn wrthym am eu profiadau o gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, cynhwysiant digidol, cyflogaeth, profiadau o fod yn ofalwyr di-dâl, cyllid, a chynrychiolaeth mewn cymdeithas. Clywsom hefyd am eu profiadau o geisio cael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, tai a mynd allan er mwyn bod yn rhan o’r gymuned.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am yr ymchwil hwn, cysylltwch â policy@agecymru.org.uk

Diolch i bawb a ymatebodd i'r ymchwil hwn ac a rannodd eu barn a'u profiadau.
Ariannwyd y gwaith ymchwil hwn gan Lywodraeth Cymru.

Adroddiadau blaenorol

Beth sy’n bwysig i chi? Profiadau cyfredol pobl sy’n 50 oed ac hŷn yng Nghymru Gorffennaf 2024

Beth sy’n bwysig i chi - Profiadau cyfredol pobl 50 oed neu hŷn yng Nghymru Hydref 2023

Profiadau presennol pandemig Covid-19 pobl 50 oed a throsodd yng
Nghymru, a safbwyntiau ar y flwyddyn i ddod - Mehefin 2022

Profiadau pobl 50 oed neu hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo COVID-19 dros y gaeaf, a’r daith i adfer Canlyniadau’r Arolwg Mai 2021

Profiadau pobl 50 oed a hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid 19, a’u hadferiad - Hydref 2020

 

Last updated: Medi 12 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top