EnvisAGE
Mae EnvisAGE yn gyfnodolyn trafod a olygwyd gan Age Cymru, sy’n archwilio materion sy’n effeithio ar bobl hŷn. Yn y rhifyn hwn, rydym yn rhoi sbotolau ar wasanaethau gofal iechyd ataliol ar gyfer pobl hŷn.
Mae Dr Samuel Young o Age Cymru’n darparu trosolwg ar wasanaethau gofal iechyd ataliol ar gyfer bobl hŷn yng Nghymru. Mae’r erthygl yn darparu trosolwg o bolisiau am ddarpariaeth gwasanaethau yng Nghymru, ac yn archwilio rhwystrau sy’n wynebu pobl hŷn wrth iddyn nhw geisio defnyddio gwasanaethau.
Mae Dr Llinos Haf Spencer o Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ac Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru a’r Athro Carolyn Wallace o Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yn darparu gwybodaeth am fuddion presgripsiynu cymdeithasol, yn cysylltu unigolion gydag asedau cymunedol lleol sy’n medru arwain at welliannau o ran llesiant.
Mae Caroline Davies o Age Cymru Dyfed yn pwysleisio bod gwasanaethau gofal iechyd ataliol yn fuddsoddiad rhagweithiol yn llesiant ein cymunedau. Drwy weithio mewn partneriaeth, mae mentrau Age Cymru Dyfed yn cynnwys darparu cefnogaeth iechyd meddwl a chysylltu unigolion drwy weithgareddau cymdeithasol.
Mae Dr Simon Read o Brifysgol Caerdydd, Yr Athro Fiona Verity o Brifysgol Brunel Llundain, Dr Gideon Calder o Brifysgol Abertawe, Yr Athro Mark Llewellyn a’r Athro Jonathan Richard o Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru, yn ystyried astudiaeth a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ‘Determining Best Preventative Social Care Practice’. Mae’r astudiaeth yn archwilio sut mae gwaith atal yn effeithio ar ofal iechyd pobl hŷn yng Nghymru.
Mae Dr Natalie Elliott, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn darparu trosolwg o iechyd yr ymennydd ac atal dementia. Mae’r erthygl yn cynnwys gwaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o bob rhan o Gymru sy’n cefnogi pobl gyda iechyd eu hymennydd a lleihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â dementia, yn cynnwys clinigau optimeiddio iechyd yr ymennydd.
Mae Ross Saunders o Gymdeithas Alzheimer’s Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd diagnosis o ddementia. Mae diagnosis yn galluogi pobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr, i baratoi ar gyfer y dyfodol a mynychu cefnogaeth sy’n eu galluogi nhw i gynnal eu hanibynniaeth am gyfnod hirach.
Mae Rebecca Zerk ac Elize Freeman o’r Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol, Prifysgol Aberystwyth, yn disgrifio’r Fenter Dewis Choice arloesol, gan gynnig model sy’n seiliedig ar hawliau, sy’n canolbwyntio ar y cleient sy’n rhoi dioddefwyr hŷn wrth graidd ei waith.
Mae Amy Lloyd ac Angharad Phillips yn arddangos rhaglen Heneiddio iach Age Cymru, sy’n hyrwyddo bywydau heini ac yn adeiladu gwytnwch ymhlith pobl hŷn. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddau faes allweddol: hybu iechyd a gweithgarwch corfforol.
Mae Richard Lee o Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn rhoi cipolwg ar y gwaith y maent yn ei wneud wrth gynorthwyo pobl sydd wedi cwympo, gan dynnu sylw at eu partneriaeth gyda GIG Prifysgol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddatblygu gwasanaeth i ofalu am bobl sy’n cwympo tra’u bod yn aros am ambiwlans.
Mae Faye Patton o Ofal a Thrwsio Cymru yn ysgrifennu am gartrefi gwell ar gyfer iechyd gwell, ac yn rhoi cipolwg ar effaith tai o ansawdd gwael ar iechyd pobl hŷn. Mae’r erthygl yn cynnwys Rhaglen Addasiadau Ymateb Cyflym Gofal a Thrwsio sy’n gosod tua 20,000 o addasiadau cartref ledled Cymru bob blwyddyn er mwyn atal damweiniau yn y cartref.
Yn ein herthygl olaf rydym yn cael persbectif rhyngwladol wrth i Arunima Himawan o’r International Longevity Centre-UK (ILC-UK) roi cipolwg ar y Mynegai Heneiddio ac Atal Iach. Mae’r Mynegai yn graddio 153 o wledydd yn erbyn chwe dangosydd: hyd oes, rhychwant iechyd, rhychwant gwaith, incwm, perfformiad amgylcheddol, a hapusrwydd.
EnvisAGE
- EnvisAGE - Sbotolau ar wasanaethau gofal iechyd ataliol ar gyfer pobl hŷn (PDF, 3 MB)
- EnvisAGE - Sbotolau ar iechyd meddwl a lles pobl hŷn (PDF, 1 MB)
- EnvisAGE - Taflu goleuni ar gyflogaeth a phobl hŷn (PDF, 1 MB)
- EnvisAGE - Taflu goleuni ar gynhwysiant ariannol pobl hŷn (PDF, 946 KB)
- EnvisAGE - Sicrhau llais, dewis a rheolaeth wrth fynd yn hŷn (PDF, 828 KB)
- EnvisAGE - Taflu goleuni ar fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanu cymdeithasol ymysg pobl hŷn (PDF, 952 KB)
- EnvisAGE - Tuag at Gymru oed gyfeillgar (PDF, 1 MB)