Os ydych chi’n gofalu am eich partner, am berthynas, neu am ffrind sy’n sâl neu’n anabl, rydych chi’n ofalwr, hyd yn oed os nad ydych chi’n ystyried eich hun fel gofalwr. Mae nifer o wahanol ffyrdd o ofalu am rywun. Efallai eich bod chi’n:
• sicrhau eich bod chi ar gael 24 awr y dydd er mwyn darparu gofal.
• trefnu apwyntiadau ysbyty ar gyfer rhywun arall.
• galw heibio bob dydd er mwyn cadw cwmni i rywun, neu eu helpu i baratoi bwyd.
• ymweld â pherthynas sy’n byw yn bell i ffwrdd unwaith bob mis er mwyn cadw llygad arnyn nhw.
• symud i fyw gyda rhywun er mwyn eu helpu nhw i wella ar ôl llawdriniaeth ddifrifol.
Os ydych chi’n gofalu am rywun, cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol er mwyn trefnu asesiad gofalwr.
Yn ogystal ag asesu anghenion yr unigolyn sy’n derbyn gofal, dylai adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol gynnal asesiad gofalwyr er mwyn deall pa anghenion sydd gennych chi, a pa fath o help fyddai’n ddefnyddiol i chi fel gofalwr.
Mae gennych chi hawl i asesiad gofalwr os ydych chi’n darparu gofal sylweddol cyson i rywun. Rydych chi hefyd yn medru gofyn am asesiad gofalwr heb fod angen asesu anghenion yr unigolyn sy’n derbyn gofal.
Dyma’r mathau o help gallwch chi dderbyn:
• gofal seibiant
• gwybodaeth am grwpiau cefnogaeth ar gyfer gofalwyr lleol
• help gyda gofalu
• offer a fydd yn eich helpu chi i ddarparu gofal.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllaw:
Canllaw 41w: Asesiadau gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn ag anghenion gofal yng Nghymru
Mae’r canllaw hwn hefyd yn llawn gwybodaeth am y broses asesu.
Mae gofalu am rywun a gweithio yn medru bod yn straen enfawr. Mae’n ddefnyddiol eich bod chi’n gwybod am eich hawliau ac yn ystyried beth fyddai’n eich helpu chi i gadw trefn ar eich gwaith a’ch rôl fel gofalwr.
Os ydych chi’n gweithio ac yn darparu gofal, mae gennych chi hawl i wneud cais am weithio’n hyblyg er mwyn cyflawni eich cyfrifoldebau.
Mae gweithio’n hyblyg hefyd yn medru eich helpu chi i ddod o hyd i batrwm gwaith sy’n addas ar gyfer eich rôl fel gofalwr, ac yn eich helpu chi i ofalu am eich hun hefyd.
Mae Gofalwyr Cymru’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am hyn.
Mae gofalu am rywun yn medru arwain at bryderon ariannol, yn enwedig os yw eich rôl yn golygu bod yn rhaid i chi adael eich swydd. Mae’n bosib bydd cefnogaeth ariannol ar gael i chi.
Lwfans Gofalwyr yw’r prif fudd-dal lles ar gyfer gofalwyr - dewch o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran budd-daliadau a hawliadau ar ein gwefan.
Os ydych chi’n gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos, mae’n bosib gallwch chi gael Credyd Gofalwr. Mae hwn yn helpu i gynnal eich record Yswiriant Gwladol – sy’n cyfrannu tuag at Bensiwn y Wladwriaeth. Byddwch chi’n derbyn Credyd Gofalwr fel mater o drefn os ydych chi’n derbyn Lwfans Gofalwr, ond nid oes rhaid i chi fod yn derbyn Lwfans Gofalwyr er mwyn cael y Credyd Gofalwr. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan GOV.UK.
Mae’n bosib bydd yr unigolyn rydych chi’n gofalu amdano yn medru derbyn Lwfans Gweini neu Daliad Annibyniaeth Personol, yn dibynnu ar eu hoedran.
Mae yna sefydliadau arbenigol sy’n medru darparu cyngor a gwybodaeth os ydych chi’n ofalwr. Mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefannau:
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Mae Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n cydweithio ar brosiect gofalwyr. Ewch i dudalen we Gofalwyr ar ein gwefan er mwyn dod o hyd i ragor o wybodaeth.
Mae ein canllaw yn llawn gwybodaeth am faterion sy’n effeithio ar ofalwyr:
Canllaw 13: Gwybodaeth ar gyfer gofalwyr
Mae yna ganllawiau arbenigol ar gyfer pobl sy’n gofalu am bobl sy’n byw gyda dementia:
Canllaw: Gofalu am rywun sy'n byw gyda dementia
Canllaw 55: Byw gyda dementia – Sut i wneud eich cartref yn fwy diogel ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98