Skip to content
Cyfrannwch

Cyngor Age Cymru

Wedi ymrwymo i fod y brif ffynhonnell wybodaeth a chyngor i bobl hŷn yng Nghymru.

Rydym yn cynnig cymorth cyfrinachol, diduedd ac arbenigol i bobl hŷn - yn ogystal â'u teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol - ledled y wlad.

Bydd ein tîm yn rhoi gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol i chi ac yn eich helpu i gael gafael ar y cyngor sydd ei angen arnoch.

Ein gweledigaeth yw bod gan bob person hŷn yng Nghymru ddewis a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain gyda mynediad hawdd i'r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt i helpu i wireddu hynny.

  • Ydych chi'n gwybod pa fudd-daliadau i'w hawlio a sut i'w hawlio?

  • Ydych chi'n poeni na allwch fforddio ymddeol?

  • Ydych chi’n poeni am fynd i’r ysbyty am gyfnod sydd wedi'i gynllunio a sut i ymdopi pan fyddwch chi'n gadael?

  • Hoffech chi gyngor am sut i ddewis y cartref gofal cywir?

Cyngor Age Cymru: 0300 303 44 98

Mae'r llinellau ar agor 9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

E-bostiwch cyngor@agecymru.org.uk

Sut mae ein cynghorwyr yn helpu pobl hŷn?

Mae ein cynghorwyr arbenigol wedi'u hyfforddi i ddeall eich anghenion a dod o hyd i'r wybodaeth orau i'ch cefnogi. Gallai hyn gynnwys anfon un o'n canllawiau defnyddiol atoch neu eich cysylltu â gwasanaethau lleol a ddarperir gan bartneriaid Age Cymru yn eich ardal chi.

Eich ardal chi

Os na allwn helpu, byddwn yn eich cyfeirio at y lle gorau i fynd i gael rhagor o gymorth a chyngor.

Ydych chi’n chwilio am wybodaeth penodol?

Lawrlwythwch gopi o unrhyw gyhoeddiad am ddim.

Datganiad o Wasanaeth

Mae ein Datganiad o Wasanaeth yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut y gall Cyngor Age Cymru helpu.

 

Last updated: Gor 30 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top