Skip to content
Cyfrannwch

£10,000 i gefnogi prosiectau profedigaeth ledled Cymru

Published on 20 Mawrth 2026 03:05 yh

Mae ugain o brosiectau ledled Cymru wedi derbyn grantiau o hyd at £500 er mwyn cynnal digwyddiadau neu wasanaethau sy’n galluogi cymunedau i gefnogi pobl sy’n wynebu galar neu gyfnodau o afiechyd.

Rhoddwyd gwerth £10,000 o arian i’r prosiectau sy’n darparu cefnogaeth i fwy na 500 o bobl, yn cynnwys sesiynau grŵp ar gyfer plant sydd wedi dioddef profedigaeth, dosbarthiadau creadigol ar gyfer pobl sy’n galaru ar ôl unigolyn wnaeth gyflawni hunanladdiad, a digwyddiadau cofio ar gyfer cyn-filwyr.

Darparwyd yr arian wrth Gymorth Canser Macmillan gan Age Cymru fel rhan o rôl yr elusen fel ysgrifenyddiaeth Cymru Garedig.  Yn ogystal â chefnogi prosiectau’n uniongyrchol, daeth y rhaglen â sefydliadau ynghyd i rannu, dysgu a gwella eu gallu i gefnogi pobl sy’n wynebu cyfnodau anodd.

Er mai nod Age Cymru yw darparu cefnogaeth i bobl hŷn yng Nghymru yn bennaf, roedd arian Cymru Garedig ar gael i unrhyw elusen neu sefydliad sy’n cefnogi pobl o bob oedran sy’n ceisio ymdopi gyda galar a cholled.

Elusen sy’n darparu cefnogaeth i blant sydd wedi dioddef profedigaeth yw Sandy Bear.  Mae’r elusen wedi ei lleoli yn Sir Benfro, ond maen nhw’n darparu gwasanaethau ledled Cymru.  Maen nhw’n darparu cefnogaeth un-i-un a grwpiau cefnogaeth gan gyfoedion er mwyn sicrhau bod plan a phobl ifanc yn medru deall marwolaeth, mynegi eu galar, ac ymdopi gyda cholled mewn ffordd gadarnhaol sy’n eu paratoi nhw ar gyfer y dyfodol.

Mae’r arian yn golygu bod tua 50 o blant sydd wedi dioddef profedigaeth ledled Cymru wedi medru mynychu sesiynau grŵp gyda’r elusen.  Roedd y sesiynau yn gyfle iddyn nhw drafod eu teimladau ac ymdopi gyda’u colled mewn lle diogel gyda phlant eraill a oedd yn wynebu heriau tebyg.

Meddai Lee Barnett, Prif Weithredwr Sandy Bear, bod y sesiynau yn darparu cefnogaeth emosiynol i’r plant, ac yn galluogi’r elusen i gyrraedd rhagor o blant.  “Mae’r plant yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, bod rhywun yn eu cefnogi, ac nad ydyn nhw ar eu pen eu hun.  Dywedodd nifer ohonyn nhw eu bod nhw’n teimlo’n fwy hyderus wrth drafod eu colled, eu bod nhw’n creu cysylltiadau gyda phobl eraill, a’u bod nhw’n deall eu hemosiynau yn well.  I nifer o blant, dyma eu cyfle cyntaf i sgwrsio gyda gwasanaeth sy’n darparu cefnogaeth arbenigol gyda phrofedigaeth mewn ffordd strwythuredig a thosturiol, ac mae hynny’n werth chweil.”

Mae Hosbis St Kentigern yn Llanelwy yn darparu gofal lliniarol i gleifion sy’n byw gyda chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywyd ledled Sir Ddinbych, Gorllewin Sir y Fflint a Dwyrain Conwy.

Defnyddiodd yr Hosbis yr arian i gynnal prosiect grŵp therapiwtig gyda phwyslais ar arddio ac ymwybyddiaeth ofalgar.  Roedd hwn yn gyfle i unigolion sgwrsio am alar a phrofedigaeth mewn lle diogel yng nghanol byd natur.  Dywedodd y tîm bod y prosiect yn cyd-fynd â’r gefnogaeth glinigol ac emosiynol maen nhw’n ei darparu.

Dywedodd Wendy Rowlands, arweinydd Llesiant HWB yr Hosbis: “Mae’r grŵp garddio ac ymwybyddiaeth ofalgar wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol.  Mae’r prosiect wedi ein helpu ni i greu cyfle diogel a chefnogol i bobl siarad am faterion anodd.  Mae’r adborth cawson ni gan gleifion wedi ailddatgan pwysigrwydd integreiddio gweithgareddau therapiwtig yn yr awyr agored.

“Dywedodd y cyfranogion bod y grŵp wedi eu helpu nhw i deimlo’n llai ynysig drwy ddarparu cefnogaeth yn ystod cyfnod anodd.  Mae’r cymysgedd o arddio ysgafn ac ymwybyddiaeth ofalgar yn rhoi cyfle i’r cyfranogion ymlacio, myfyrio, a chysylltu â phobl eraill sy’n deall sut maen nhw’n teimlo.  Dywedodd nifer ohonynt eu bod nhw’n teimlo’n dawelach eu meddwl, yn fwy hyderus, ac yn medru ymdopi’n well gyda’u profedigaeth neu eu salwch.  Ar y cyfan, roedd y grŵp yn creu naws gynnes a thosturiol a wnaeth wella eu llesiant a chryfhau eu hymdeimlad o gymuned.”

Meddai Kelly Barr o Age Cymru, rheolwraig y prosiect, “Dydy colli anwylyn byth yn hawdd, ac mae nifer o bobl yng Nghymru’n ceisio galaru ac ymdopi gyda heriau personol neu sefyllfaol difrifol.  Efallai eu bod nhw’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, heriau ariannol, neu efallai bod amgylchiadau’r brofedigaeth wedi eu bwrw nhw’n galed, os oedd y golled yn sydyn ac yn annisgwyl.

“Mae miloedd o blant ledled Cymru’n dioddef profedigaeth bob blwyddyn.  Mae eu profiadau yn boenus ac yn ddychrynllyd, a dydy nifer ohonyn nhw ddim yn gwybod sut i brosesu eu teimladau na dychmygu eu bywydau ar ôl y fath golled.

“Dyma pam rydyn ni’n falch i fod wedi cyd-weithio gyda’n partneriaid Cymru Garedig a Macmillan er mwyn creu gwahaniaeth go iawn ledled Cymru.  Roedd hi’n anhygoel i weld yr arian yn cyfrannu tuag at y fath amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithdai a chefnogaeth, ac wrth gwrs ni fyddai modd darparu unrhyw wasanaeth heb bobl a sefydliadau arbennig iawn.”

 

Last updated: Maw 20 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top