Age Cymru: Ymateb i Cynnydd yn y Cap Ynni

Published on 26 Awst 2025 11:00 yh
Ymateb Age Cymru: Cynnydd yn y Cap Ynni
Mae cyhoeddiad heddiw y bydd y Cap Ynni yn cynyddu eto yn yr Hydref yn bwysedd cost ychwanegol i bobl hŷn ledled Cymru.
Rydym yn pryderu am bobl hŷn sydd ar incwm isel a sefydlog, a fydd yn poeni am gael dau ben llinyn ynghyd y gaeaf hwn. Rydym yn annog cwmnïau ynni i gefnogi pobl hŷn eleni yng nghanol cefndir o argyfwng costau byw parhaus.
Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd:
“Dylai pobl hŷn allu edrych ymlaen at eu blynyddoedd diweddarach gyda chysur a thawelwch meddwl, nid gyda phryder ynghylch gorfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta, teimlo'n oer neu fynd i ddyled. Bydd newyddion heddiw y bydd prisiau ynni yn codi eto, sydd wedi dod wrth i'r tymheredd ostwng, yn gadael llawer o bobl hŷn yn poeni am y gaeaf sydd i ddod.”
“Mae rhaid inni fynd i’r afael â’r tlodi tanwydd. Ni ddylai ein nod fod ynghylch mynd trwy un gaeaf ar y tro fel sy’n digwydd nawr, yn hytrach rhaid inni adeiladu dyfodol lle nad oes unrhyw berson hŷn yn cael ei adael yn oer neu’n cael trafferth fforddio’r hanfodion. I gyflawni hyn mae angen prisiau ynni tecach, cartrefi wedi’u hinswleiddio’n iawn a system gymorth ariannol sy’n mynd i’r afael â phlâ tlodi tanwydd yn y tymor hir.”
Gall pobl ffonio llinell Gymorth Age Cymru i gael cyngor neu mwy o wybodaeth ar 0300 303 44 98 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, e-bostiwch advice@agecymru.org.uk