Skip to content
Cyfrannwch

Data newydd am unigrwydd yn tynnu sylw at yr angen brys am gefnogaeth dros y Nadolig eleni

Published on 19 Rhagfyr 2025 02:40 yh

Mae ymchwil newydd gan Rwydwaith Age Cymru’n tynnu sylw at yr unigrwydd difrifol ymhlith pobl hŷn dros gyfnod y Nadolig eleni, wrth i tua 36,000 baratoi i dreulio Dydd Nadolig heb weld na siarad â neb.

Rydyn ni’n annog pobl yng Nghymru i gyfrannu tuag at ein hymgyrch dros y Nadolig er mwyn i ni fedru parhau i gefnogi pobl hŷn sydd angen ein help.

Profiadau pobl hŷn dros gyfnod y Nadolig

Mae’r ymchwil yn dangos pa mor ynysig mae’r amser hyn y blwyddyn yn gallu fod i nifer o bobl hŷn:

  • Mae dau o bob pump yn dweud nad ydyn nhw'n teimlo’n llawen yn ystod cyfnod y Nadolig mwy
  • Mae mwy nag un o bob pump yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw deulu na ffrindiau i ddathlu’r Nadolig gyda nhw bellach
  • Mae chweched o'r ymatebwyr yn dweud eu bod yn gweld eisiau sŵn chwerthin adeg y Nadolig
  • Ni fydd bron i 36,000 o bobl hŷn yn gweld nac yn siarad â neb ar Ddydd Nadolig  
  • bydd dros 97,000 o bobl hŷn yn bwyta cinio ar eu pen eu hun ar Ddydd Nadolig  
  • ni fydd gan fwy na 17,000 o bobl hŷn unrhyw un i agor anrhegion neu gardiau gyda nhw ar ddydd Nadolig eleni.  

Mae unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn broblemau trwy gydol y flwyddyn, ond gall y gaeaf, a'r Nadolig yn enwedig, fod yn arbennig o anodd. Gyda gwasanaethau arferol yn dirwyn i ben, siopau'n cau'n gynnar neu'n cau'n llwyr, tywydd oerach, diwrnodau byrrach a chyflwr iechyd pobl yn amrywio, mae'n anodd i lawer o bobl fedru cynnal cysylltiadau cymdeithasol.

Sut rydym yn helpu

Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd: "Rydym yn gwybod bod y teimlad o lawenydd, cwmnïaeth a pherthyn sy’n cael eu darparu gan Rwydwaith Age Cymru yn help mawr i gymaint o bobl hŷn yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn.

“Mae unigrwydd yn dod yn frwydr ddyddiol pan mai'r teledu neu'r radio yw eu hunig gwmni.  Ni ddylai unrhyw berson hŷn byth deimlo'n unig ac ynysig. Rydych chi’n medru newid y sefyllfa hon.”

“I filoedd o bobl hŷn sy'n teimlo'n unig, sy’n teimlo bod pawb wedi'u hanghofio, neu nad oes ganddynt neb arall i’w helpu, mae Rhwydwaith Age Cymru yn help enfawr.”

"Bydd eich rhodd yn helpu i gysuro, darparu cyfeillgarwch a gofal i berson hŷn unig y gaeaf hwn. Rydyn ni yma i ddarparu pob math o bethau, yn cynnwys galwadau wythnosol cyfeillgar a chlybiau cinio lleol. Ond ni allwn wneud dim heb eich cefnogaeth chi. Helpwch ni i fynd i'r afael â'r unigrwydd nad ydych chi'n ei weld.”

Gall pob rhodd helpu partneriaid Rhwydwaith Age Cymru i ddarparu cysylltiad a chefnogaeth i bobl hŷn unig.

 

Last updated: Rhag 19 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top