Neges ar gyfer y flwyddyn newydd wrth Age Cymru
Published on 26 Ionawr 2026 12:50 yh
Roedd 2025 yn dipyn o flwyddyn.
Nid oes llawer yn ein plith heb gael eu heffeithio gan yr heriau byd-eang yn 2025. Mae’r holl bethau rydyn ni’n eu gweld ar y newyddion ledled y byd yn effeithio arnom un ffordd neu’r llall, boed trwy gostau bwyd neu ynni cynyddol, tywydd peryglus neu newidiadau gwleidyddol.
Mae pobl hŷn yng Nghymru wedi wynebu heriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae cynyddu’r cap ar brisiau ynni’n golygu bod gwresogi ein cartrefi’n ddrutach, a bod nifer o bobl hŷn sydd ag incwm isel wedi gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta.
Diolch byth fod y Taliadau Tanwydd Gaeaf wedi cael eu hadfer ar gyfer pobl sydd ag incwm yn llai na £35,000. Ond oherwydd bod prisiau popeth arall yn cynyddu, bydd hyd yn oed y bobl hynny ag incwm cymedrol yn ei chael hi’n anodd.
Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol wedi bod yn bwynt llosg yn Age Cymru, ac mae gwaith ymchwil wedi dangos bod 36,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi treulio dydd Nadolig ar eu pen eu hun heb weld na siarad â neb.
Mae allgau digidol yn parhau i fod yn her. Mae mwy a mwy o wasanaethau bob dydd yn digwydd ar-lein – ac yn aml nid oes opsiwn arall yn cael ei gynnig. Mae hwn yn her enfawr yng Nghymru ble mae allgau digidol ddwywaith yr her gyfartalog yn y DU, ac nid oes gan 31% o bobl dros 75 oed fynediad at y rhyngrwyd yn eu cartrefi.
Yma yn Age Cymru, gyda’n Partneriaid Rhwydwaith, rydyn ni’n gwneud popeth sy’n bosib er mwyn cefnogi pobl hŷn yng Nghymru, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, gan ddarparu gweithgareddau, cyngor a chanllawiau. Cysylltwch â’ch cangen Age Cymru leol,
ffoniwch ni ar 0300 303 44 98, neu os oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, ewch i agecymru.wales.
Rydyn ni’n darparu cefnogaeth, yn dathlu pobl hŷn yng Nghymru, ac yn eirioli dros eu hawliau a’r parch maen nhw’n ei haeddu.
Weithiau, mae’r iaith sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl hŷn, yn enwedig yn y cyfryngau am bynciau fel yr economi, yn medru bod yn negyddol, fel petawn ni’n gymuned oddefol sydd ddim yn cyfrannu braidd dim.
Dydy hyn ddim yn wir o gwbl. Mae pobl hŷn yng Nghymru’n cyfrannu tua £2bn y flwyddyn i’r economi, yn uniongyrchol neu drwy gefnogaeth fel gwirfoddoli neu ofal plant. Mae buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl hŷn yng Nghymru’n fuddsoddiad cadarnhaol yn y wlad.
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer un o etholiadau pwysicaf y Senedd, hoffwn gymryd y cyfle i bwysleisio materion sydd angen eu hystyried wrth i bleidiau ledled y wlad ymgyrchu am ein pleidleisiau.
Byddwn ni’n galw am:
Fynediad hawsach at wasanaethau iechyd yn enwedig apwyntiadau meddyg teulu.
Gofal amserol, o ansawdd da, ar gyfer pobl hŷn, gan sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu fel bod pobl yn medru dod o’r hyd i’r gefnogaeth sydd ei angen mewn da bryd.
Mynd i’r afael â thlodi pensiynwyr a darparu cefnogaeth wedi ei dargedu ar gyfer pobl hŷn sy’n wynebu heriau ariannol.
Mynediad cynhwysfawr at wasanaethau a gwybodaeth ar gyfer pobl sydd wedi cael eu hallgau’n ddigidol yn enwedig gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy a hygyrch.
Cysylltu cymunedau fel bod pobl hŷn yn medru mynychu siopau a gwasanaethau.
Cadw pobl yn gynnes yn eu cartrefi trwy ddarparu mynediad at gynlluniau cartrefi cynnes a sicrhau mynediad at gefnogaeth gwresogi brys pan mae angen.
Byddwn ni’n rhannu Maniffesto mwy manwl yn ystod yr wythnosau nesaf, ond rydyn ni’n disgwyl bydd traean y boblogaeth, tua 1.6 miliwn o bobl, yn hŷn na 50 yng Nghymru erbyn 2030, ac rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i fynd i’r afael â’r her anweledig hon.
Wrth i ni ddechrau blwyddyn newydd, byddwn ni’n parhau i ymgyrchu dros hawliau pobl hŷn a herio anghydraddoldebau rydyn ni oll yn eu hwynebu. Byddwn ni’n parhau i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth arbenigol am ddim i bobl hŷn ledled Cymru. Byddwn ni’n parhau i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed.
Yr eiddoch yn gywir,
Victoria Lloyd,
Prif Weithredwr, Age Cymru