Neges Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gan y Dirprwy Gadeirydd, Diane Hughes
Published on 05 Mawrth 2026 08:41 yh
Mae gwasanaethu fel Ymddiriedolwr i Age Cymru, Elusen Genedlaethol yng Nghymru sy’n cynorthwyo Pobl Hŷn i fyw’n dda yn ddiweddarach mewn bywyd, yn anrhydedd ac yn ymrwymiad personol mawr. Yn fy rôl, caf y fraint o gyfrannu tuag at weledigaeth lle y caiff heneiddio ei barchu, ei werthfawrogi a lle y gall pawb, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau, fyw eu blynyddoedd hŷn gydag urddas, diben, cysylltiad a llawenydd.
Fel Ymddiriedolwr i Age Cymru, mynychais dderbyniad arbennig iawn yn ddiweddar yng Nghastell Windsor a roddwyd gan ein Brenin a’n Brenhines mewn cydnabyddiaeth o Ofalwyr trwy’r Deyrnas Unedig i gyd. Roedd hi’n anrhydedd ac yn fraint mynychu’r digwyddiad hwn ynghyd â dau gyd-Ymddiriedolwr ac aelod o staff Age Cymru.
Traddododd ein Brenin neges ragorol a llawn gobaith, a chafodd llawer o fynychwyr y cyfle i rannu’u profiadau gofalgar. Fe’m syfrdanwyd gan waith ardderchog cynifer o ferched sy’n cynrychioli sefydliadau o’r trydydd sector, a gwnaeth imi fyfyrio ar bwysigrwydd lleisiau merched a’r rôl sydd gennym mewn hyrwyddo arweinyddiaeth.
Felly, wrth inni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, hoffwn siarad am rôl hanfodol arweinyddiaeth dosturiol, ac am y merched, y teuluoedd a’r cymunedau sy’n gwneud gofal, empathi, eiriolaeth a chynhwysiant yn ganolog i fywyd dyddiol ledled Cymru.
Hyrwyddo arweinyddiaeth a lleisiau merched mewn gofal
Nid oes a wnelo arweinyddiaeth yn y trydydd sector ag awdurdod. Mae’n ymwneud â throsi gwerthoedd yn weithredoedd. Mae hefyd yn ymwneud â gofal, dewrder, cydymdeimlad a sicrhau bod polisïau, arferion a chysylltiadau dynol oll yn cydweithio i wella bywydau. Yn y byd cynyddol ddigidol hwn, mae cysylltiadau dynol yn hanfodol, yn enwedig i nifer sylweddol o bobl hŷn a all fod yn teimlo yn unig, yn ynysig ac yn aml wedi’u hallgáu’n ddigidol.
Fel dynes mewn rôl Ymddiriedolwr a llywodraethiant, rwyf yn angerddol dros sicrhau y caiff amrywiaeth a chynhwysiant eu gwreiddio ymhob agwedd o’n gwaith. Mae pobl hŷn, yn neilltuol merched hŷn, yn aml yn wynebu haenau lawer o anghydraddoldeb, o ansicrwydd ariannol i ynysigrwydd cymdeithasol. Ymdrechwn i herio’r anghydraddoldebau hyn trwy annog polisïau a rhaglenni sy’n gwerthfawrogi pob cyfnod mewn bywyd, a phrofiadau unigryw pob person.
Hyrwyddwyr, gofalwyr, cymdogion da, teuluoedd a chyfeillion cefnogol yw asgwrn cefn ein cymunedau, sy’n cydbwyso tosturi, cadernid, gan wneud aberthau dyddiol i sicrhau bod eraill yn byw ag urddas. Mae’u hymrwymiad yn ymgorffori gwir ysbryd gwasanaeth, ac mae’n adlewyrchu’r gwerthoedd sy’n tywys ein gwaith, a’m rôl innau fel Ymddiriedolwr.
Byddwn yn annog mwy o ferched i dderbyn rolau fel Ymddiriedolwyr, gan ddod â safbwyntiau ac arweinyddiaeth gydymdeimladol o’r newydd i’r sector elusennol. Mae bod yn rhan o Dîm Age Cymru wedi cryfhau fy ymrwymiad i effaith gymdeithasol ac wedi atgyfnerthu pwysigrwydd lleisiau merched wrth lunio newid cadarnhaol. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, mae’n rhaid inni ddathlu’r merched sy’n ysbrydoli newid cadarnhaol bob dydd, p’un a ydynt yn arwain sefydliadau, yn gofalu am anwyliaid, neu’n lleisio dros achosion sy’n bwysig.
Dirprwy Gadeirydd, Age Cymru
Diane Hughes