Skip to content
Cyfrannwch

Ymateb Age Cymru: Cymorth Ynni

Published on 16 Mawrth 2026 04:43 yh

Mae Age Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog heddiw yn cadarnhau cefnogaeth newydd i helpu pobl gyda'u biliau ynni yn dilyn yr argyfwng yn y Dwyrain Canol.

Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu'n fawr am bobl hŷn ar incwm isel a sefydlog, gan fod llawer ohonynt eisoes yn cael trafferth gwneud penderfyniadau. Mae tua 10% o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar olew gwresogi, rydym yn annog cwmnïau ynni a Llywodraeth y DU i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd pobl hŷn sydd fwyaf agored i gostau cynyddol.

Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwraig Age Cymru:

"Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw yn darparu rhywfaint o sicrwydd ynghylch cefnogaeth gyda chostau olew ac ynni cynyddol. I filoedd o bobl hŷn ledled Cymru sy'n dibynnu ar olew gwresogi, mae'r cynnydd sydyn mewn prisiau yn parhau i fod yn bryder mawr.

Mae angen i ni weld y manylion ar sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni, ac rydym yn poeni a fydd yr arian sydd ar gael i Gymru yn mynd i’r afael â’r her, o ystyried nifer y cartrefi yr effeithir arnynt, gyda llawer ohonynt yn gartrefi i bobl hŷn sydd eisoes yn cael trafferth gyda phwysau costau byw parhaus.

"Mae angen atebion hirdymor arnom hefyd. Ni ddylai unrhyw berson hŷn gael ei adael heb wres nac yn methu fforddio hanfodion bywyd. Mae cyflawni hyn yn gofyn am brisiau ynni tecach, cartrefi wedi'u hinswleiddio'n gywir ac sy’n ynni-effeithlon, a system gymorth ariannol sy'n mynd i'r afael â thlodi tanwydd."

Os oes unrhyw un eisiau cyngor neu ragor o wybodaeth, gallant ffonio Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk.

 

Last updated: Maw 16 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top