Ymateb Age Cymru: Gostyngiad yn y Cap Ynni
Published on 26 Chwefror 2026 03:26 yh
Cyhoeddodd y rheoleiddiwr ynni Ofgem yn ddiweddar y bydd y Cap Prisiau Ynni yn gostwng 7% o fis Ebrill ymlaen, a fydd yn arwain at ostyngiad o tua £10 y mis ar gyfer bil ynni cartref nodweddiadol.
Er ein bod yn croesawu'r newyddion hyn, mae'n dod wrth i ni ddechrau dod allan o aeaf caled lle mae pobl hŷn ledled Cymru wedi parhau i weld costau byw heriol - gyda chwyddiant yn dal yn uchel.
Rydym yn parhau i fod yn bryderus am bobl hŷn sydd ar incwm isel a sefydlog. Y bydd llawer ohonynt wedi cael trafferth dod â dau ben llinyn ynghyd y gaeaf hwn. Rydym yn annog cwmnïau ynni i gefnogi pobl hŷn, yn enwedig gan fod disgwyl i ni gael gwanwyn llawer mwynach, sy'n golygu y bydd angen i bobl gynhesu eu cartrefi am gyfnod hirach nag sy'n nodweddiadol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.
Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru:
“Er ein bod ni wrth gwrs yn croesawu’r newyddion y bydd prisiau ynni’n gostwng ychydig, nid yw’r gwahaniaeth yn cymharu â’r cynnydd dramatig mewn prisiau bedair blynedd yn ôl, ac mae costau ynni’n dal i fod tua thraean yn uwch nag yr oeddent cyn y rhyfel yn yr Wcrain.
“Dylai pobl hŷn allu edrych ymlaen at eu blynyddoedd diweddarach gyda chysur a thawelwch meddwl, nid gyda phryder ynghylch gorfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta, teimlo’n oer neu fynd i ddyled. Mae newyddion heddiw yn gam bach i’r cyfeiriad cywir, ond rhaid inni weld cefnogaeth barhaus gan y Llywodraeth a chwmnïau ynni os ydym am ddechrau mynd i’r afael â’r mater sy’n dyfnhau o dlodi tanwydd yng Nghymru.
“Ni ddylai ein nod fod ynghylch mynd trwy un gaeaf ar y tro fel sy’n digwydd nawr, yn hytrach rhaid inni adeiladu dyfodol lle nad oes unrhyw berson hŷn yn cael ei adael yn oer neu’n cael trafferth fforddio’r hanfodion. I gyflawni hyn mae angen prisiau ynni tecach, cartrefi wedi’u hinswleiddio’n iawn a system gymorth ariannol sy’n mynd i’r afael â phlâ tlodi tanwydd yn y tymor hir.”
Gall pobl ffonio llinell Gymorth Age Cymru i gael cyngor neu mwy o wybodaeth ar 0300 303 44 98 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, e-bostiwch advice@agecymru.org.uk