Ymateb Age Cymru i Bwyllgor Gwaith a Phensiynau: Tlodi Pensiynwyr: heriau a mesurau lliniaru

Published on 23 Gorffennaf 2025 11:00 yh
Mae'r adroddiad newydd hwn gan y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau'n alwad i weithredu ac yn tynnu sylw at dlodi cynyddol ymhlith pensiynwyr a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar iechyd a lles pobl hŷn.
Yn ein harolwg diweddaraf (2025) dywedodd bron hanner y bobl hŷn a wnaeth ymateb i’r arolwg fod costau byw wedi bod yn her yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd dwy ran o dair wrthym eu bod wedi gwneud newidiadau i'w bywydau oherwydd pwysau ariannol.
Mae pobl hŷn yn lleihau ar hanfodion fel bwyd, gwresogi a chymdeithasu er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd. Mae llawer yn gweld bod ganddynt ddim ar ôl i’w dorri ond mae prisiau’n parhau i gynyddu. Mae hyn yn arwain at iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, unigrwydd ac arwahanrwydd ac yn herio'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gefnogi heneiddio iach.
Mae angen i ni weld ymdrechion parhaus i gynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar Gredyd Pensiwn, mae tua 56,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn gymwys ond nid ydynt yn ei hawlio. Rydym yn cefnogi'r angen am ddulliau rhagweithiol ar gyfer unigolion sy'n debygol o fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn ynghyd â gwybodaeth, cyngor a chymorth i hawlio. Rydym hefyd yn cefnogi galwadau'r Pwyllgor i ystyried lleihau Credyd Pensiwn i "liniaru effaith ymyl y clogwyn" i'r rhai sy'n colli allan.
Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd ‘Rydym yn annog Llywodraeth y DU i weithredu ar argymhellion yr adroddiad i roi terfyn ar dlodi pensiynwyr a helpu pobl hŷn i fyw gydag urddas. Roeddem yn falch o rannu pryderon pobl hŷn yn uniongyrchol â’r pwyllgor yn ystod y sesiwn dystiolaeth ym mis Mai’.