Ymddiriedolwr
- A wnewch chi helpu i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru?
- Ydych chi eisiau cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl hŷn yng Nghymru?
- Dyma gyfle i chi fod yn ymddiriedolwr.
Mae Age Cymru’n chwilio am dri ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n bwrdd brwdfrydig a medrus. Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ymddiriedolwyr profiadol a phobl sy’n chwilio am eu rôl gyntaf fel aelod bwrdd.
Age Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, ac rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u grymuso i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Rydyn ni’n darparu cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau dibynadwy, ac yn defnyddio ein profiad i ddylanwadu ar bolisïau.
Pa fath o berson ydyn ni’n chwilio amdano?
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn sydd â sgiliau neu brofiad o:
· Cyfathrebu
· Marchnata
· Codi arian a chynhyrchu incwm
· Y gyfraith
· Llywodraeth
· Busnes
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan:
· Siaradwyr Cymraeg
· Pobl sy’n byw yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru
· Pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
Bydd eich safbwynt a’ch profiad bywyd yn ein helpu ni i ehangu ein cynrychiolaeth a chryfhau ein heffaith.
Beth fyddwch chi’n elwa?
Fel ymddiriedolwr, byddwch chi’n cael cyfle i:
· Lunio cyfeiriad elusen genedlaethol a gwella bywydau pobl hŷn yng Nghymru
· Derbyn cyfnod sefydlu a hyfforddiant, a datblygu sgiliau newydd mewn llywodraethant elusen
· Defnyddio eich arbenigedd, cysylltiadau, a phrofiadau er mwyn creu cyfleoedd newydd ar gyfer Age Cymru
· Bod yn rhan o dîm ymroddedig, cydweithredol sy’n creu newidiadau cadarnhaol
Ymrwymiad
· Pedwar cyfarfod y flwyddyn, a chyfarfod strategaeth dros gyfnod o ddau ddiwrnod ym mis Tachwedd
· Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu wyneb yn wyneb rhwng dydd Llun a dydd Gwener
· Mae’r gwaith paratoi’n cynnwys darllen papurau bwrdd o flaen llaw
· Mae nifer o ymddiriedolwyr yn cyfrannu gwaith pwyllgor
Tystebau gan ymddiriedolwyr presennol
Diane: "Mae bod yn Ymddiriedolwr ar Fwrdd Age Cymru yn brofiad hynod werth chweil. Mae Age Cymru yn tyfu o nerth i nerth, gan ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn ledled Cymru. Fel ymddiriedolwr, bydd gofyn i chi ystyried pob agwedd o waith yr elusennau a chyfrannu at benderfyniadau ynghylch cyfeiriad gwasanaethau, gweithgareddau ac ystyriaethau ariannol pwysig yn y presennol ac yn y dyfodol. Cyn cyfarfodydd y Bwrdd, mae'r Ymddiriedolwyr yn derbyn papurau gwybodaeth ac yn cael eu briffio'n am yr holl eitemau sydd ar yr agenda a datblygiadau o fewn y gwasanaeth. Mae hon yn elfen hanfodol o waith Ymddiriedolwr sy'n gofyn am amser ac ymrwymiad. Mae'n hynod o foddhaol cefnogi gwaith ein Prif Weithredwr a'i thîm o gydweithwyr hynod ymroddedig, profiadol. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o elusennau ledled Cymru ac yn falch o fod yn rhan o Age Cymru, elusen ddeinamig a chyffrous".
Charles: "Rwy'n parhau i deimlo’n falch wrth ddweud fy mod yn aelod o Fwrdd Age Cymru. Ar ôl ymwneud â'r Elusen a'i rhagflaenydd, Age Concern, fel gweithiwr a gwirfoddolwr am fwy na 25 mlynedd, credaf ein bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan helpu i gefnogi pobl hŷn ar adeg a all fod yn gyfnod anodd yn eu bywydau".
Sut i wneud cais
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle, gallwn drefnu sgwrs gydag un o’n hymddiriedolwyr presennol, er mwyn iddyn nhw allu rhannu eu profiad. Cysylltwch â Victoria Lloyd ar 029 2043 1555 i drefnu.
I wneud cais, anfonwch atom:
- Amlinelliad o’ch profiad a’r rhinweddau personol y byddwch yn eu cyflwyno i’n bwrdd ymddiriedolwyr
- Datganiad ategol byr (dim mwy na dwy ochr A4) yn dweud wrthym pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl hon
- Y ffurflen monitro cydraddoldeb. Nid yw hyn yn orfodol, ond gofynnir amdano ar gyfer dibenion monitro yn unol â’n hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Anfonwch eich cais, drwy ddanfon e-bost at: victoria.lloyd@agecymru.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 12 Canol dydd, 30 Medi 2025
Pecyn Gwybodaeth i Ymddiriedolwyr
Y ffurflen monitro cydraddoldeb