Skip to content
Cyfrannwch

Pam ydyn ni’n aros o hyd? Oedi mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru

Dyma drydydd adroddiad blynyddol Age Cymru sy'n edrych ar oedi wrth i bobl hŷn yng Nghymru aros am ofal cymdeithasol. Mae ein prosiect eiriolaeth dementia, prosiect eiriolaeth HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) a Chyngor Age Cymru yn clywed gan nifer o bobl sy'n poeni wrth iddynt aros am asesiadau a phecynnau cymorth gofal cymdeithasol. Flwyddyn yn hwyrach, roedden ni eisiau gweld os wnaeth y newidiadau a gafodd eu cynllunio yn 2023 helpu pobl hŷn ledled Cymru gan wella'r broses o fynychu gwasanaethau cymorth cymdeithasol.

Eleni clywsom am brosiectau ledled Cymru a oedd yn ceisio mynd i'r afael ag argymhellion adroddiad 2023, ond nid oes pethau'n newid yn ddigon cyflym i ateb y galw cynyddol.

Mae'r cynnydd yn y galw am ofal cymdeithasol wedi'r pandemig wedi lleihau, ond mae bron i un o bob pedwar person hŷn yn dal i aros mwy na 30 diwrnod am asesiad gofal ac mae un o bob chwech yn dal i aros mwy na 30 diwrnod cyn bod pecyn gofal ar waith. Mae oedi yn effeithio ar bobl hŷn a'u hanwyliaid ledled Cymru.

Dywedodd un person am yr heriau enfawr a oedd yn wynebu pobl a oedd yn ceisio mynychu'r gwasanaethau gofal cymdeithasol:

"Fel gofalwr i ddau riant sydd â dementia mae'r effaith ar fy iechyd meddwl wedi bod yn anodd - mae yna ddiffyg cefnogaeth wrth yr awdurdod lleol tan fod y sefyllfa'n troi'n argyfyngus. Rydw i'n gorfod brwydro dros bopeth, rydw i wedi rhoi'r gorau i weithio er mwyn cynnal fy iechyd meddwl fy hun a sicrhau bod fy rhieni yn derbyn gofal. Rydw i wedi peryglu fy sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y dyfodol."

Mae adrannau'r gwasanaethau cymdeithasol yn poeni na fyddant yn medru addasu'n ddigon cyflym i gwrdd â chymhlethdod cynyddol galw a rhagamcanion poblogaeth yn y dyfodol. Mae angen newid mwy o newidiadau ar frys.

Mae angen i ansawdd cyfathrebu rhwng cynghorau â phobl hŷn a'u teuluoedd ar y pwynt cyswllt cyntaf ac wrth aros am welliannau wella.
Rydym yn pryderu bod rhai o ymdrechion y cynghorau yn 2023 ynghylch gwella'r gefnogaeth i ofalwyr di-dâl wedi arafu wrth i ni glywed am y straen cynyddol sy'n wynebu gofalwyr hŷn yn 2024.

Eleni rydym wedi ychwanegu ffocws ar godi tâl gofal cymdeithasol. Rydym yn clywed gan bobl hŷn sy'n poeni ac sydd wedi drysu'n llwyr ynghylch trefniadau codi tâl ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae nifer yn nodi nad yw'r dulliau cyfathrebu ynghylch codi tâl yn glir. Mae'r galwadau mae Cyngor Age Cymru'n eu derbyn yn mynd law yn llaw â cheisiadau am help i hawlio arian wrth i'r argyfwng costau byw barhau. Mae angen gwella sut mae taliadau'n cael eu cyfathrebu a'u hegluro.

Mae cyfathrebu gwael ynghylch rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn golygu bod pobl hŷn yn aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd raid. Clywsom fod dulliau cyfathrebu gwael rhwng aelodau o staff sy'n gweithio mewn ysbytai ac adrannau gofal cymdeithasol yn gwneud cyfnod sydd eisoes yn anodd i deuluoedd yn heriol iawn. Mae gwella cyfathrebu rhwng staff mewn ysbytai a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn gadael yr ysbyty yn ddiogel ac yn amserol.

Rydym yn argymell:

  1. Mae angen i Lywodraeth Cymru, ADSS Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac awdurdodau lleol gydweithio i sicrhau bod mecanweithiau adrodd yn medru dangos lle mae canlyniadau cadarnhaol yn cael eu cofnodi a'u hadrodd, yn hytrach nag allbynnau
  2. Dylai awdurdodau lleol asesu a yw eu prosesau presennol ar gyfer darparu cyngor a gwybodaeth gychwynnol a mynediad parhaus at ngor a gwybodaeth yn diwallu anghenion pobl hŷn. Mae angen i hyn gynnwys canolbwyntio ar ansawdd y cyfathrebu, a pa mor dda mae pobl yn deall y broses o godi tâl tecach
  3. Dylai awdurdodau lleol roi ffocws ychwanegol ar yr unigolion hynny sydd ar hyn o bryd yn aros mwy na 30 diwrnod cyn cael asesiad anghenion gofal neu becyn gofal
  4. Dylai awdurdodau lleol ddarparu cymorth rhagweithiol i'r bobl sy'n aros mwy na 30 diwrnod
  5. Mae angen i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, awdurdodau lleol a gwasanaethau'r trydydd sector weithio gyda'i gilydd i wella'r cymorth ymyrryd ac atal cynharach sydd ar gael i bobl hŷn
  6. Dylai Llywodraeth Cymru, byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sicrhau bod cyllid y trydydd sector yn cael ei ddarparu mewn modd cynaliadwy
  7. Mae angen pwyslais ar ddysgu rhwng awdurdodau lleol a rhannu arfer da. Bydd hyn yn lleihau faint o waith y mae angen i awdurdodau lleol ei wneud a'u helpu i osgoi peryglon y mae awdurdodau lleol eraill wedi'u hwynebu
  8. Dylai Llywodraeth Cymru, byrddau partneriaeth rhanbarthol ac awdurdodau lleol sicrhau bod gofynion y Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn cael eu bodloni.

 

Last updated: Medi 12 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top