
Cyngor Age Cymru
Mae Cyngor Age Cymru wedi ymrwymo i fod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mwyaf blaenllaw ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Ein nod yw darparu gwasanaethau sy'n gwella bywyd a chymorth hanfodol i bobl yn hwyrach yn eu bywydau. Rydym ni a'n partneriaid lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ledled Cymru.
Mae Cyngor Age Cymru wedi ymrwymo i fod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mwyaf blaenllaw ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Mae Ffrind Mewn Angen yn wasanaeth cyfeillgarwch dros y ffôn sydd wedi’i gynllunio’n benodol i gefnogi pobl hŷn sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig.
Mae eiriolaeth yn cefnogi pobl i gadarnhau eu hawliau, i fynegi eu barn, i wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio arnyn nhw, ac os oes angen mae eiriolaeth yn cynrychioli barn pobl mewn cyfarfodydd.
Mae hawliau dynol yn hawliau sylfaenol sy'n perthyn i bob un ohonom yn syml am ein bod yn ddynol. Maent yn ymgorffori gwerthoedd allweddol yn ein cymdeithas megis tegwch, urddas, cydraddoldeb a pharch.