Skip to content
Cyfrannwch

Gwasanaethau gwybodaeth a chyngor

Cyngor dibynadwy ar gyfer pobl hŷn

Rydym yn cefnogi pobl hŷn ledled Cymru i ddeall eu hawliau, dod o hyd i gymorth addas, a gwneud dewisiadau gwybodus am eu bywydau.

Rydyn ni’n darparu cyngor am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys hawlio budd-daliadau a dod o hyd i ffyrdd o aros yn annibynnol gartref.

Ein nod yw cefnogi pobl sydd angen arweiniad clir ac arbenigol ar faterion sy'n gysylltiedig ag oedran.

Canllawiau a thaflenni ffeithiau

Ydych chi angen gwybodaeth benodol? Lawrlwythwch gopi o’n cyhoeddiadau am ddim.

Rydym yn helpu pobl hŷn i hawlio budd-daliadau

Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol Age Cymru, rydym yn sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o’r cymorth ariannol sydd ar gael - megis Credyd Pensiwn, Lwfans Gweini, a Lwfans Gofalwr - a'u helpu i wneud hawliadau llwyddiannus.

£9 miliwn

Yn 2024–2025, fe wnaethom helpu i nodi gwerth £9 miliwn o fudd-daliadau a oedd heb eu hawlio. Ynghyd â phartneriaid lleol Age Cymru, fe wnaethom gefnogi pobl hŷn ledled Cymru i gael mynediad at gymorth ariannol - gan ddatgloi gwerth £9 miliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio.

Ydych chi’n medru hawlio?

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae hyd at £2 biliwn mewn budd-daliadau yn mynd heb eu hawlio - a Chredyd Pensiwn yn unig yw mwy na £200 miliwn o’r cyfanswm. Gallai gwiriad budd-daliadau cyflym eich helpu chi i ddarganfod pa arian fedrwch chi hawlio. 

Mae heneiddio’n medru bod yn anodd

Os oes angen gwybodaeth neu gyngor arnoch - ar unrhyw fater - ffoniwch ein llinell gyngor genedlaethol am ddim ar 0300 303 44 98.  Mae’r llinell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm.

Yn 2024/25, fe wnaethom helpu i ddatrys dros 41,000 o broblemau i bobl hŷn, eu teuluoedd a gofalwyr ledled Cymru.

 

Last updated: Gor 14 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top