Skip to content
Cyfrannwch

Hyfforddiant

Os ydych chi’n teimlo bod gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog yn hanfodol i’ch busnes, pa mor dda ydych chi’n deall anghenion pobl hŷn?

Archebwch eich hyfforddiant heddiw a dysgwch sut fedrwch chi sicrhau bod eich busnes yn cefnogi pobl hŷn!  Bydd ein hyfforddiant yn sicrhau bod gennych chi’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn gwella eich gwasanaeth a chefnogi pobl hŷn, gan wneud eich busnes yn fwy cynhwysol a chroesawgar.  

Gyda'r hyfforddiant hwn, bydd staff gwasanaethau cwsmeriaid yn:

  • Chwalu stereoteipiau oedran
  • Deall yr heriau sy'n wynebu pobl hŷn
  • Deall sut i ddarparu gwell gwasanaeth cwsmeriaid i bobl hŷn
  • Defnyddio syniadau ymarferol i wreiddio'r gwasanaeth gwell hwn i gwsmeriaid gan sicrhau bod pobl hŷn yn cael y profiad gorau wrth dderbyn cefnogaeth gan y sefydliad.

Archebwch eich lle ar hyfforddiant gwasanaeth cwsmer Age Cymru

Ble: Ar lein (Teams)

Hyd y sesiwn: Dwy awr

Pris: £53 y person

Archebwch eich lle ar gwrs hyfforddi ymwybyddiaeth oedran Age Cymru

Rydyn ni hefyd yn darparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer grwpiau.  Gallwn addasu’r hyfforddiant gan ddibynnu ar anghenion eich sefydliad, yn cynnwys sesiwn ymwybyddiaeth oedran gyffredinol.

Cysylltwch â ni i drafod. E-bostiwch policy@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555

Argaeledd

15/10/25 - 10:00

28/10/25 - 14:00

18/11/25 - 10:00

20/11/25 - 14:00

01/12/25 - 14:00

10/12/25 - 10:00

13/01/26 - 10:00

19/01/26 - 14:00

03/02/26 - 14:00

25/02/26 - 10:00

04/03/25 - 10:00

10/03/26 - 14:00

 

Last updated: Medi 30 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top