Skip to content
Cyfrannwch

Eiriolaeth

Delwedd ar gyfer eiriolaeth

HOPE - Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu

Mae HOPE yn brosiect partneriaeth rhwng Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Wales ledled Cymru. Bydd HOPE yn darparu eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn (50+) a gofalwyr ledled Cymru.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy tan ddiwedd mis Mawrth 2026.

Rhaglen Edau Euraidd Eiriolaeth

Ariannwyd Rhaglen Edau Euraidd Eiriolaeth gan Lywodraeth Cymru am bedair blynedd i redeg ochr yn ochr â chefnogi gweithredu Rhan 10 (Eiriolaeth) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Eiriolaeth Dementia

Mae'r Prosiect Eiriolaeth Dementia yn darparu cymorth eiriolaeth annibynnol, broffesiynol i unrhyw un 18+ sydd a diagnosis o ddementia ledled Cymru.

Caiff Eiriolaeth Dementia ei ariannu gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd mis Mawrth 2026.


  • Arolwg eiriolaeth Cymru

    Mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal, wedi gweld eu hawliau dynol yn cael eu torri a'u mynediad at eiriolaeth, iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i atal yn ystod y pandemig. Mae hyn yn ôl dau arolwg gan eiriolwyr proffesiynol wedi'u lleoli yng Nghymru.
  • Pwysigrwydd Eiriolaeth

    Mae gwasanaethau eiriolaeth arbenigol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn diflannu yn ôl ein hadroddiadau Pwysigrwydd Eiriolaeth. Cynhelir y rhain bob yn ail flwyddyn.
  • Rhwydwaith eiriolaeth

    Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Oedolion yng Nghymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gwasanaeth eirioli o ansawdd i bobl yng Nghymru.
  • Cylchlythyr eiriolaeth

    Mae ein cylchlythyrau eiriolaeth yn darparu gwybodaeth, diweddariadau ac arfer da i chi am eiriolaeth.
  • Gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru

    Rhagor o wybodaeth am wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Logo HOPE

QPM  AWARD Age Cymru colour 2025.jpg

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top