Skip to content
Cyfrannwch

Bwrw'r draul

Cost of living woman thinking.jpg

Bwrw'r draul

Yn dilyn ein harolwg blynyddol, rydyn ni wedi edrych yn fanylach ar un o’r problemau mwyaf y mae pobl hŷn yng Nghymru yn dweud wrthym eu bod yn eu hwynebu – costau byw.

Dywedodd mwy na hanner (52%) o bobl hŷn wrthym fod costau byw wedi bod yn her iddyn nhw eleni, o’i gymharu â dim ond 9% yn 2020. Tanwydd yw’r pryder mwyaf. O’r rheini a ddywedodd wrthym eu bod yn torri’n ôl, mae mwy na hanner yn defnyddio llai o ynni, ac mae dros draean yn gwario llai ar fwyd.

Mae llawer o bobl hŷn yn byw ar incwm sefydlog, felly does ganddyn nhw fawr o le i symud pan fydd prisiau’n codi’n sydyn. Mae costau tanwydd, dŵr a gofal i gyd wedi codi’n sylweddol. Dywedodd pobl wrthym sut maen nhw’n ymdopi: dydy un fenyw yn Wrecsam ddim yn cael cawod yn rheolaidd bellach er mwyn lleihau ei bil dŵr, ac mae un arall yn Sir y Fflint yn dweud na all hi fforddio bwyta’n iach mwyach. Mae torri’n ôl ar wresogi a bwyd yn peryglu iechyd pobl hŷn ac yn rhoi mwy o bwysau ar ein GIG.

Mae’r adroddiad yn edrych ar bedair prif gost: tanwydd, dŵr, gofal a band eang. Mae’n gofyn pam eu bod yn codi, ac yn nodi beth all Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma – Bwrw’r draul

Gall unrhyw un sy’n poeni am dalu eu biliau’r gaeaf hwn gael help a chyngor drwy ffonio Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98, dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb–4yp, neu ewch i’n tudalen gwybodaeth a chyngor am gostau byw.

 

Last updated: Hyd 13 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top