Skip to content
Cyfrannwch

Swyddog Prosiect - HOPE - Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin

Teilt y Swydd: Swyddog Prosiect – Rhan Amser
Categori’r Swydd: Age Cymru – Prosiect HOPE
Lleoliad: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
Cyflog: £29,067
Math o gytundeb: Cytundeb Tymor Penodol hyd at 31 Mawrth 2027 - 35 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 16/10/26

Allwch chi ein helpu ni i wneud Cymru'n lle gwych i heneiddio?

Mae Age Cymru’n chwilio am Swyddog Prosiect llawn amser gyda sgiliau cyfathrebu da ac sydd yn medru gweithio’n dda gyda phobl er mwyn cefnogi gwaith pwysig Prosiect HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu). Yn gweithio’n agos ac ar y cyd gydag Age Connects a phartneriaid Age Cymru lleol, byddwch yn helpu darparu eiriolaeth annibynnol ar gyfer pobl hŷn a’u gofalwyr ledled Cymru. Mae hyn yn contract cyfnod penodol tan 31/03/2027.

Byddwch yn helpu i ddatblygu gwasanaethau eiriolaeth ar draws y rhanbarth ac yn cyflawni amcanion cynnar Prosiect HOPE, gan alluogi pobl hŷn i ddeall eu hopsiynau, mynegi eu barn a chael llais cryfach mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mae'r prosiect HOPE yn helpu pobl hŷn a gofalwyr i gymryd rhan mewn penderfyniadau, gwneud dewisiadau gwybodus a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae hefyd yn eu galluogi i rannu eu profiadau a datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth, gan godi ymwybyddiaeth o eiriolaeth a'r cymorth sydd ar gael.

Fel rhan o dîm project rhanbarthol HOPE, byddwch yn recriwtio, hyfforddi a rheoli gwirfoddolwyr sy'n cefnogi pobl hŷn. Byddwch hefyd yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â phobl hŷn a gofalwyr, yn derbyn ac yn asesu atgyfeiriadau eiriolaeth, ac yn dyrannu atgyfeiriadau addas i wirfoddolwyr. Mae'r rôl yn galw am empathi, barn gadarn a dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn a gofalwyr..

Mae hon yn rôl hybrid sy'n cyfuno gwaith cartref a swyddfa, gyda theithio achlysurol ar draws Abertawe, Neath Port Talbot, Sir Benfro a SIr Gaerfyrddin. Cytunir ar eich swyddfa gontractiol gyda'r ymgeisydd llwyddiannus, a chroesewir ceisiadau gan bobl sy'n byw ar draws yr ardaloedd hyn. Bydd angen i’r deiliad llwyddiannus ddarparu car ar gyfer defnydd busnes a bydd treuliau teithio yn cael eu cynnwys.

Nodwch fod y cyflog yn gyfwerth â swydd llawn amser 35 awr yr wythnos.  Bydd angen achlysurol i weithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau a’i drefnu o flaen llaw.

Mae angen bod gennych chi:

  • Brofiad o weithio gydag eraill i ddarparu prosiectau a gwasanaethau llwyddiannus
  • Profiad o recriwtio, rheoli a gweithio gyda gwirfoddolwyr
  • Gwybodaeth am faterion sydd yn effeithio ar bobl hŷn a’u gofalwyr
  • Gwybodaeth am wasanaethau lleol yn y sector gyhoeddus neu’r sector wirfoddol
  • Profiad o gydgysylltu ac ymgymryd ag amrediad o gyfathrebiadau, marchnata a hysbysebu
  • Sgiliau gweinyddol arbennig, y gallu i gynnal systemau, rheoli prosesau a thalu sylw i fanylion
  • Sgiliau rhyngbersonol arbennig, a’r gallu i adeiladu a chynnal perthnasau effeithiol, ac i gydweithredu a gweithio ar eich liwt eich hun
  • Profiad o gydgysylltu digwyddiadau, er enghraifft cyfarfodydd, cynadleddau, gweithdai a seminarau
  • Sgiliau technoleg gwybodaeth, rheoli data a dadansoddi gwych.

Mi fyddai’n dda petai gennych:

  • Y gallu i siarad Cymraeg (Dymunol)

Sut ydw i’n ymgeisio ar gyfer y swydd hon?

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf ar gyfer y swydd hona pham yr hoffech weithio i Age Cymru. Ni fyddwn yn ystyried eich cais heb lythyr eglurhaol.

E-bostiwch eich CV a’r llythyr eglurhaol at hr@agecymru.org.uk

Disgrifiad Swydd

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Hoffai Age Cymru ofyn i asiantaethau recriwtio a gwerthwyr yn y cyfryngau beidio â chysylltu. Dydyn ni ddim yn derbyn CVs ar hap gan asiantaethau recriwtio nac yn derbyn y ffïoedd sydd yn gysylltiedig â nhw.

Beth rydyn ni’n ei gynnig

  • Gwyliau – cyfanswm o 27 diwrnod sydd yn cynnwys 24 dydd o’ch dewis chi a 3 dydd i’w defnyddio rhwng Nadolig a’r flwyddyn newydd – yn cynnwys cario ymlaen
  • Cynllun oriau gwaith hyblyg
  • Pensiwn cyflogwr
  • Yswiriant bywyd hael hyd at 4 gwaith eich cyflog blynyddol
  • Cynllun taliad arian yn ôl gofal iechyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac rydyn ni’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys ac addas, ta waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, statws priodasol/partneriaeth sifil, os ydynt yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau ar gyfer gweithio’n hyblyg.

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion a phlant sydd yn agored i niwed ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl bod pawb sydd yn gweithio i ni’n rhannu’r ymrwymiad hwn.

Rydyn ni’n eich annog i ymgeisio’n gynnar oherwydd rydyn ni’n cadw llygad ar geisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu, ac mae gennym hawl i gau’r hysbyseb ar unrhyw bryd.

Nid yw Age Cymru yn derbyn cyswllt gan asiantaethau recriwtio na chyfryngau gwerthu. Dydyn ni ddim yn derbyn CVs ar hap gan asiantaethau recriwtio a dydyn ni ddim yn derbyn y tâl sydd yn gysylltiedig â nhw.

Age Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ac rydyn ni yma pan mae ein hangen fwyaf. Trwy ymchwil ac ymgyrchoedd, cynnig gwybodaeth a chyngor, darparu eiriolaeth annibynnol (trwy ein Prosiect HOPE ac eiriolaeth Dementia) a rhaglenni llesiant, rydym wir yn poeni am gefnogi pobl hŷn i fyw bywyd bodlon.

 

Last updated: Hyd 02 2026

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top