Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru yn dod â lle arddangos ‘The Cube’ i Ysbyty’r Barri.

Published on 18 Gorffennaf 2023 08:11 yh

Mae Age Cymru yn dod â lle arddangos ‘The Cube’ i Ysbyty’r Barri.  Mae’r elusen wedi defnyddio ‘The Cube’ ers llawer o flynyddoedd i arddangos celf a chreadigedd a grëwyd gan bobl hŷn, ac sydd wedi cael ei ysbrydoli gan bobl hŷn, yn enwedig pobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal preswyl.

Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio mewn ysbytai eraill er mwyn creu ymdeimlad o lonyddwch a llesiant ar gyfer cleifion ac ymwelwyr.  Mae ‘The Cube’ wedi darparu cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am greadigedd pobl sydd yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â chartrefi gofal yng Nghymru.  Mae wedi arddangos gwaith celf gan Penny Alexander, Emma Prentice, Tara Dean, Alice Briggs a Lizzy Stonhold ymhlith eraill.

Wrth sefydlu ‘The Cube’, mae Age Cymru yn cychwyn partneriaeth tair-blynedd gydag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro er mwyn helpu hyrwyddo’r celfyddydau a gwaith iechyd y bwrdd iechyd.  Er mwyn cychwyn y bartneriaeth, bydd ‘The Cube’ yn arddangos gwaith trawiadol Nathan Wyburn fel rhan o’r casgliad ‘This is Older’.  Nod y prosiect yw portreadu pobl dros 50 oed fel grŵp o bobl amrywiol, pobl heini, llai ystwyth, cymdeithasol, ynysig, hapus, trist, cyfoethog, tlawd a llawer mwy!

Meddai cydlynydd y prosiect, Kelly Barr o Age Cymru, “Mae ‘The Cube’ wedi creu ymdeimlad o ryfeddod ar bob cam o’i siwrne, ac wedi cychwyn sgyrsiau am greadigedd ymhlith pobl hŷn.  Rydyn ni wrth ein bod i rannu ‘The Cube’ gydag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, sydd wedi gweithio gyda ni yn y gorffennol er mwyn cynnal Gŵyl Gwanwyn.  Rydyn ni’n edrych mlaen i weld arddangosfeydd y dyfodol yng Nghaerdydd a’r Fro, ac rydyn ni’n gobeithio bydd pobl sydd yn ymweld ag Ysbyty’r Barri yn mwynhau’r arddangosfa hon sydd yn ysgogi’r meddwl!”

Meddai Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ar Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Mae ‘The Cube’ yn ychwanegiad arbennig i Ysbyty’r Barri, ac mae’n arddangos gwaith yr artistiaid mewn ffordd newydd ac unigryw.  Bydd cleifion, staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr oll yn cael cyfle i edmygu’r gwaith celf ar waliau’r ysbyty a thu allan yr adeilad.  Ein cenhadaeth yw newid ysbytai i fod yn llefydd calonogol sydd yn llawn bywyd, ac rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Age Cymru am roi ‘The Cube’ i ni, gan ein helpu i gyflwyno gwell profiad i’n cleifion a’n staff.”I ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol am waith celf a chreadigrwydd Age Cymru, ewch at ein gwefan www.agecymru.org.uk/gwanwyn neu www.agecymru.org.uk/thisisolder neu ffoniwch 029 2043 1555

 

Last updated: Gor 18 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top