Mae cymorth ar gael i famau a gafodd eu heffeithio gan fabwysiadu gorfodol
Published on 19 Mai 2026 01:23 yh
Mae Cymdeithas Plant Dewi Sant a Adoption UK, ar ran Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, yn ceisio sicrhau bod mwy o fenywod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt os oes ganddynt blentyn geni a fabwysiadwyd cyn 1976 yng Nghymru.
Rhwng y 1940au a'r 1970au, roedd llawer o fenywod di-briod yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i'w babanod. Roedd y plant yn cael eu mabwysiadu oherwydd yr agweddau cymdeithasol a chrefyddol ar y pryd. Amcangyfrifir bod 185,000 o fabanod wedi'u heffeithio ledled Cymru a Lloegr. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro yn ffurfiol am y torcalon a'r boen aruthrol a achosodd yr arfer hwn ar famau yn arbennig.
Yn 2023, yn dilyn ymddiheuriad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, lansiodd Cymdeithas Plant Dewi Sant a Adoption UK y Gwasanaeth Mynediad at Gofnodion a Chyfryngu cyn 1976, i ddarparu cymorth i'r rhai a allai fod wedi cael eu heffeithio, er mwyn iddyn nhw fedru derbyn cymorth priodol os dymunant.
Nid yw'r gwasanaeth yn golygu aduniad o reidrwydd, a gellir gweithredu gam wrth gam fel bod pawb yn teimlo'n gyfforddus gyda'r wybodaeth maen nhw'n ei dderbyn.
Gall unrhyw un a gafodd blentyn, a chafodd eu gorfodi i wahanu wrth y plentyn yng Nghymru cyn 1976 wneud cais. Bydd pob cyswllt yn cael ei drin yn gyfrinachol, a bydd gweithwyr cymorth unigol yn helpu pob person gyda'u hachos.
Dywedodd Corienne Strange, Pennaeth Polisi, Ymarfer a Chyfathrebu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru "Nod cyffredinol y gwasanaeth yw helpu pobl yr effeithiwyd arnynt gan fabwysiadu cyn 1976 i ddeall eu hanes, ac yna eu cefnogi cymaint ag sydd ei angen arnynt".
Dywedodd Corienne: "Er bod llawer o wybodaeth wedi cael ei nodi am achosion mabwysiadu a ddigwyddodd yn y 40au, 50au, 60au a 70au, ni chafodd llawer o achosion eu gwneud yn gyhoeddus. Cyfrannodd pwysau cymdeithasol ac agweddau a oedd yn bodoli ar y pryd at achosion ble nad oes y mamau yn datgelu eu profiadau ac rydym yn credu bod hyn wedi parhau i rai nad oeddent wedi teimlo eu bod yn gallu rhannu gwybodaeth gyda'u teuluoedd.
"Ni fydd llawer o famau yn arbennig wedi dweud wrth unrhyw un bod ganddynt blentyn a gafodd ei fabwysiadu. O bosib, cawsant blant eraill a byw bywydau heb i unrhyw un gael gwybod am y gorffennol. Efallai eu bod hefyd wedi parhau i ddioddef oherwydd y penderfyniadau a wnaethant, neu’r penderfyniadau gafodd eu gwneud ar eu cyfer, ar y pryd, gan nad oedd y mwyafrif yn derbyn cefnogaeth barhaus ar ôl y digwyddiad. Dyna pam rydyn ni yma, i helpu'r rhai yr effeithir arnynt, naill ai'n uniongyrchol, neu drwy aelod o'r teulu.
"Mae'r gefnogaeth honno yn edrych yn wahanol i bawb. I rai, efallai mai eu nod yw dod o hyd i'w plentyn a fabwysiadwyd, a chysylltu â nhw. I eraill, mae'n golygu dod o hyd i wybodaeth er mwyn tawelu eu meddwl.
"Y peth pwysig yw bod pawb sydd angen cymorth yn dod o hyd iddo, a dyna pam rydyn ni mor falch bod Age Cymru yn ein helpu i rannu'r neges hon. Byddem yn annog unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio, neu unrhyw un sy'n adnabod rhywun a allai fod wedi cael eu heffeithio, i gysylltu â ni i drafod sut fedrwn ni helpu."
I gael rhagor o wybodaeth, neu i siarad â rhywun er mwyn trafod pa gymorth sydd ar gael, ffoniwch Gymdeithas Plant Dewi Sant ar 02920 667007, neu ewch i https://stdavidschildrensociety.org/birth-parents-intermediary-service/.