Dod i ddeall eich pensiwn a’ch treth yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn
Published on 15 Medi 2026 03:30 yh
Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Bensiynau hon, rydym wedi ymuno â HMRC i ddarparu gwybodaeth a chymorth ynghylch pensiynau.
Yn aml, mae ymddeoliad yn golygu bod eich materion ariannol yn newid mewn ffordd sy’n teimlo’n annisgwyl, ac i lawer, treth yw un o’r pethau mwyaf cymhleth i’w deall. Pan fyddwch yn dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth, pensiwn preifat, neu’r ddau, mae eich sefyllfa dreth yn gallu dod yn fwy cymhleth na’r disgwyl, yn enwedig os ydych chi wedi gweithio mewn swydd ble cafodd y dreth ei sortio ar eich rhan.
Os yw hyn yn swnio’n gyfarwydd, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Does dim disgwyl i chi wybod popeth am sut mae’ch pensiwn a’ch treth yn gweithio. Felly does dim angen i chi boeni.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Pensiwn yn gyfle gwych i ymweld â gwefan Magu’ch Hyder o ran Treth er mwyn dysgu’r wybodaeth am dreth y mae angen i chi ei chael i deimlo’n wybodus, medrus a hyderus. Mae gan wefan Magu’ch Hyder o ran Treth wybodaeth glir a dibynadwy am y ffordd mae pensiynau a threth yn gweithio, p’un a ydych eisoes yn cael pensiwn neu wrthi’n cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad.
Mae’r wythnos hon yn adeg berffaith i ddysgu am eich pensiwn a beth mae hynny’n ei olygu i’ch materion ariannol.
Ewch i wefan Magu’ch Hyder o ran Treth i ddechrau arni: Sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio - Magu’ch Hyder o ran Treth